y ford yn ei ymyl, ac yntau heb wg ar ei wyneb wrth weld gwerth arian felly yn mynd o'i dŷ. Mwy syndod fyth, ei thad a awgrymodd fod digon o le yn y fasged i bwys o ymenyn ffres y diwrnod hwnnw. Cyn troi i'r llaethdy i gyrchu'r pwys ymenyn, dywedodd y fam,—
Newided i hat, wir, Marged Elen. Leices i mo honna ar i phen i ariôd. Diw i'm yn mind yn amal i'r gwmdogeth na.
Daeth Marged Elen i lawr yr ail waith a'i het oreu ar ei phen.
Yr oedd tŷ'r gweinidog filltir a hanner o'r Mwyndir. Pan gychwynodd Marged Elen yn ol wedi gwneud ei neges a chael cwpanaid o dê yr oedd yn dechreu tywyllu. Er iddi sicrhau nad oedd ofn arni, ni allai Owen Elis fod mor anniolchgar ac anfoesgar a gadael iddi fynd drwy'r tywyllwch ei hun. Aeth gyda hi'n gloff drwy'r pentref, a bron hyd y tŷ, gan gario'i basged.
Be si wedi codi ym mhen nhad a mam, te?" ebe Josi, pan oedd ei chwaer ac yntau eu hunain yn y gegin y noson honno. "Beth ddoith a'r idea iddin nw mor sidin? Allan beido ffwdani. Cin i ti roi mwi o dy feddwl ar y Bigel, mi weda i gwmsel wrthot ti. Dw i ddim fod i weid, ond mae e'n ddigon gwir. Mae'r boi dros i ben mewn cariad â Gwen Alun."
"Gwen Alun! Bidd ddistaw da tithe, Josi," ebe Marged Elen yn anghrediniol.
"O reit," ebe Josi, "ond ma'r peth yn ffact coila di fi." Ni feddyliai Josi na'i chwaer son am gyfrinachau felly wrth eu mam na'u tad, ac ni chymerai Marged Elen arni un amser fod yn deall dim o'r polisi newydd; ond bu'r fasged a hithau fwy nag unwaith drachefn yn nhŷ'r gweinidog ar neges gyffelyb; ac o leiaf unwaith, a'r noson yn dywell iawn, gwelwyd Owen Elis a hithau yn dod tua'r Mwyndir, drwy'r heolydd cul, anwastad, fraichymraich.