Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Marged Elen, Y Mwyndir."

'O, wir," ebe Gwen, yn siriol eto.

Own ni wedi cal rhiw shis o'r peth, ond mi gweles nw nos Wener diwetha a'n lliged yn hinan Own i'n digwydd dod lawr trw lôn Y Mwyndir, a mi gwrddais a nhw i doi, yn breicho'n din hefid.

"O, ma nw shwr o fod obiti find te," ebe Gwen.

"Shwr o fod. Ma arian yn Y Mwyndir welwch chi, ma'r dîn bach yn giwt," ebe John, gan edrych yn graff iawn ar Gwen, ond methodd weld un arwydd o ofid am y peth ar ei hwyneb. Teimlai'n falch am hynny. Lodes gall oedd Gwen. Diau na feddyliasai erioed am y gweinidog fel 'cariad,' er cymaint siaradai pobl. Yr oedd ei chalon yn rhydd, ac yr oedd gobaith iddo ef eto.

"Deis i! Ma rhaid i fi find," ebe ef. "Ddewch chi i rwimo?"

"Gna, gna. Prid biddwch chi'n dachre?"

Ni fu Gwen yn llonnach erioed nag yn y cae ŷd y diwrnod hwnnw. Medrai rwymo'r ysgubau mor ddeheuig ag y gwniai ffedog Nani. Clywid ei chwerthin llon yn amlach na'r eiddo neb arall, ac yn swn miwsig ei llais, tra'n torri'r ŷd yno'n ymyl ei gilydd, gwnai John a Fred bob un ei gynlluniau erbyn y dyfodol, a Gwen a lanwai'r naill a'r llall.

Ond wedi gorffen gwaith y dydd ar y cae, wedi gwneud ei gorchwylion bychain gartref, wedi i'w thadcu fwyta'i swper a mynd i'w wely, daeth Gwen wyneb yn wyneb a'r nos. Yn oriau anhrugarog y tywyllwch ciliodd cwsg ymhell oddiwrthi, a daeth cwestiynau ac atgofion, blinderau a chamgymeriadau ei bywyd bach yn fyw ger ei bron. Beth a wnaethai i Mr. Elis? Beth a barasai iddo newid mor sydyn yn ei ymddygiad tuag ati? Pwy a ddaethai i'w gwahanu? Ac ni chai ofyn iddo am esboniad! Ni chawsai Gwen yr un addysg ond greddf ar y pwnc, ond gwyddai mai dioddef yn ddistaw oedd raid, o derbyn ymddygiad mor rhyfedd fel pe bai'r peth naturiolaf yn y byd. Cofiai fel yr edrychasai ymlaen at y Gymanfa. Mor llawn o Owen Elis y buasai ei holl feddyliau am dani! Teimlai yn awr, rywfodd, mai o'r dydd hwnnw y dechreuasai pethau fynd yn ei herbyn. Ni welsai ef byth oddiar hynny ond yn ei bwlpud ar y Sul. Cofiai ei weld o ganol y gweinidogion yn syllu yn graff arni,