Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a phan roisai hi hanner gwên iddo, troisai draw yn sydyn gan grychu ei dalcen. Hwyrach fod ei gwên a'i hedrychiad wedi dangos gormod o gariad ei chalon, ac iddo yntau weld mor amhosibl a gwrthun oedd meddwl y gallent hwy eu dau fod yn ddim i'w gilydd. Yr oedd ef yn ddyn o bwys yno ynghanol y gweinidogion, a hithau yn ferch dlawd ddinod. Sychodd Gwen ei dagrau. Gwelodd eto John Maesyryn ar y clawdd bach a'r wên fwyn ar ei wyneb yn dweyd ei newydd; teimlodd eto'r pwysau annioddefol ar ei chalon, a gwyddai y byddai'r darlun hwnnw a'r boen honno yn dileu am byth bob atgof a theimlad arall am John Maesyryn.

Marged Elen, Y Mwyndir! Pam na fuasai Ann wedi dweyd rhywbeth wrthi? Gwyddai Josi'n ddiau, ac felly gwyddai Ann, a gallai ar yr un pryd siarad a hi am dano yn yr hen ddull! Pa mor bell y gellid ymddiried mewn ffrind? Ni chai neb gymaint o'i chyfrinachau mwy.

"Ma arian yn Y Mwyndir, welwch chi. Mae'r dîn bach yn giwt," meddai llais tawel John eto'n ei chlustiau. O'r gore, os mai dyn felly oedd Mr. Elis, aed. Efallai fod ereill yn y byd heb fod mor ddibris o honi. Yna, daeth yr oedfa honno ger yr afon gyda rhuthr i'w chof. Wylodd drachefn nes oedd ei gobennydd yn foddfa ddagrau, ac a haul y bore yn gwenu i'w hystafell, cysgodd yn drwm.

XX.

Tywys Di fi i'r dyfodol,
Er na welaf fi ond cam.

—HERBER.

A minnau, mae'r storm yn fy enaid
Yn dyfod i'w hoed.

—GWYNN JONES.


FEL y cyfeiria'r emynnydd, daw adegau yn ein bywyd pan na welwn ond cam i'r dyfodol. Diflannodd yn sydyn y golygfeydd swynol a ymagorai gynt o'n blaen, dyryswyd ein