Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac wrth ddychwelyd, gwelodd Fred yn dod i'w chyfarfod. Siriolodd Gwen o'i weled. Nid oedd eisieu hanner craffter Fred i ganfod hynny. Daeth yn ddigon hyf i ofyn i Gwen fynd am dro gydag ef ar hwyrnos mor hyfryd.

Chi'n pale iawn. Bidd wâc yn da i chi," ebe ef, gan edrych arni'n dyner.

"Do's dim iws i fi ddod, pale ne beido," ebe 'Gwen. Do's dim iws i fi adel Daci, diw e'm yn iach iawn."

My poor girl!" ebe Fred.

Llanwodd llygaid Gwen, nid oedd y dagrau un amser ym- hell y dyddiau hynny. Pwysodd ei phen ar yr iet fach, ac heb fedru peidio, wylodd yn hidl. Syllodd Fred arni'n fud am ennyd, ond pa ddyn fedrai wneud hynny'n hir heb geisio'i chysuro? Rhoddodd ei fraich gref am dani, a'i wyneb yn agos iawn i'w hwyneb hi, a sibrydodd eiriau mwynion yn ei chlust,-

My dear child! your life is too lonely and monotonous for you, and you are over-wrought and miserable. I wish I could take you away with me and make you happy! Why did'nt I see you ten years ago? How different my life would have been! Let me comfort you now! My darling! you need me, yes, you do! and I need you."

Yr oedd Gwen yn rhy lawn o ocheneidiau i yngan gair mewn gwrthdystiad, a phan gododd ei phen i sychu ei dagrau, gwasgodd Fred hi'n ddiwarafun at ei galon, ac am yr ail dro yn ei fywyd, gadawodd ei gusan brwd ar ei gwefus.

"Gwen." ebe ef, "fi dod lawr heibo ti chi bob nos ar ol swper.

"Os chi dod mas fan hin, cawn sharad am spel." Ni wnaeth Gwen ond edrych arno heb gynnyg gair mewn atebiad; ond nid oedd gwg yn y llygaid llaith. Edrychodd Fred ar ei hol nes clywed y drws yn cau, tynnodd un ochenaid ddofn, yna trodd tuag adref, rhoddodd ei ddwylaw yn ei bocedi, a chwibanodd yn ysgafn yn ol ei arfer.

Tra'n eistedd ar ei haelwyd unig y noson honno, mynnai un o frawddegau gwyllt Fred redeg drwy feddwl Gwen, "I wish I could take you away with me," ddywedasai. Mor dda fuasai ganddi gael mynd yn ddigon pell o ardal Cwm- gwynli! Sut medrai fyw a gweld Mr. Elis yn priodi Marged Elen, Y Mwyndir? Yn hytrach nag wynebu hynny, gwell