Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Bugail y Bryn.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddi fynd i ffwrdd i rywle, hyd yn oed gyda Fred—hen Sais. Bron o'i hanfodd daeth i'w meddwl eiriau ei thadcu rywbryd pan oedd y gweinidog yno,— Fuse tithe'n fwy rhydd hebddw i, Gwen fach." Llithrodd yn rhwydd i— ddychmygu beth wnai pe bai ei thadcu'n marw, a hithau'n rhydd. Yr un eiliad ffieiddiodd ei hun am oddef y fath feddyliau; ceisiodd eu taflu oddiwrthi, ond methai gael. llonydd ganddynt.

Mor hanerog, wedi'r cyfan, yw cariad goreu daear! Wylodd Gwen yn brudd ac edifeiriol wrth weld ei derfynau. Er mwyn teimlo'n sicrach o'i serch at ei thadcu, aeth i'w ystafel drachefn cyn mynd i'w gwely, a dywedodd yn siriol, heb wybod fod swn dagrau o hyd yn ei llais,-

"Shwt i chi'n teimlo nawr, Daci bach? Dich chi'm wedi peswch fowr heddi. 'Rich chi siwr o fod yn well, welwch chi. Falle cisgwch chi heno nawr.'

Ceisiodd yntau druan ei chysuro hithau. "Odw i, merch i, yn teimlo'n lew iawn.

Cer di i dy wely nawr, a phaid di becso. Fuest ti'n llefen heno? Dw i'm yn wael, wel di. Ond falle bydd well i ti sgrifennu gair at dy fam bore fory. Fuse'n brion peth i ti gal cwmni ma nawr."

Yr un nos Sul eisteddai Owen Elis yn unig yn ei lety yn un o gymoedd Morgannwg. Pregethasai fore a hwyr i gynulleidfa drystiog, ddi-ddefosiwn. Methasai ganfod enaid cydnaws drwy lygaid neb o'r rhai a'i gwrandawai. Ni theimlasai neb o'r diaconiaid ddigon o ddiddordeb ynddo—fel ag i ddod gydag ef i'w lety am awr o ymgom. Gwr a gwraig oedd ei letywyr, hen mewn dyddiau, ond megis babanod ym myd crefydd ac enaid, ac heb ddim i'w ddywedyd ar nemawr i bwnc arall. Felly eisteddai'r gweinidog ei hun.

I lawer pregethwr, i Owen Elis yn anad neb, nos anhyfryd fynychaf oedd nos Sul. Wedi dringo i'r uchelion yn ystod y dydd, mwy fyth oedd y cwymp i'r gwaelodion. Yr oedd ei gyflawniadau bob Sul mor bell o'r hyn y dymunai iddynt fod, a'r gwir lwyddiant yr hiraethai am dano o hyd mor anghyraeddadwy. Weithiau, yr oedd yr oriau rhwng oedfa olaf y dydd ac amser cysgu bron yn annioddefol iddo.