Safai'r tŷ lle y lletyai ar ben pellaf y pentref bychan Aeth i'w ystafell wely'n gynnar, ac oddiyno clywai swn cerdded parhaus ar y ffordd o flaen y tŷ, swn siarad difyr, Swn chwerthin llawen. Oddimewn, gwaedai calon y dyn ieuanc unig. Cyn diosg ei ddillad, diffoddodd ei gannwyll, cododd gwrr llenni'r ffenestr ac edrychodd allan. Disgleirjai'r lleuad Fedi'n fwyn, yr un lleuad a wyliai Gwen a Fred ger yr iet. Hwyrach mai saeth-feddwl gwyllt o galon Gwen ddaeth ato drwy'r pellter i agor clwyfau ei galon. Cerddai cannoedd o bobl ieuainc heibio'i ffenestr, gan mwyaf yn ddau a dau, fel yr adar ddechreu'r gwanwyn. Mor hapus yr ymddangosent! Dyn ieuanc oedd yntau. Paham oedd raid iddo ef fod mor unig, mor unig? Paham na chai yntau rodio llwybrau bywyd yn llon gyda Gwen fel y deuoedd hapus welai o'i flaen? Yn ystod yr wythnosau diweddaf, credasai ei fod yn graddol ennill y dydd ar holl atyniadau daear, ond heno eto, wele'r hen deimlad hudolus a'r ing yn llifo fel ton dros ei enaid. O Dduw! ai ymdrech barhaus oedd bywyd i fod? ymdrech chwerw, chwerw fel heno? Murmurodd eiriau a welsai rywle,—"Would that I could sleep and awake an old man, with an old man's passionless resignation!" Yna trodd yn ol i'w ystafell, ac eisteddodd yn hir yn y tywyllwch. Pan gododd i fynd i'w wely, medrodd ddywedyd gyda'r hen fynach,—"Tyrd ynte, O fy Iesu, tyrd i dorri'r unig linynnau a'm cylyma wrth y creadur, ac a geidw'n ol y foment pan na fyddwyf byw mwyach, ond i Ti. Par i mi anghofio fy hun, heb weld, na chwennych ond Tydi yn unig, a chael pwyso ar Dy fynwes, fel y disgybl annwyl, yn y tangnefedd hyfryd hwnnw, nad all y byd mo'i roddi na'i ddeall, ac nas cynhyrfir gan yr un ystorm.