merch yn well na chariad newydd. Dechreuodd Gwen feddwl fod amgylchiadau yn trefnu eu hunain, ac mai felly yr oedd pethau i fod. Pe cai ei dewis o'r dau, ni phetrusai ddewis y gweinidog. Ond pa sawl merch ga briodi yr hwn gafodd gariad pura'i chalon? Yr oedd pennill o gân ddysg asai Gwen yn ddigon difeddwl rywbryd yn awr yn rhan o'i phrofiad,-
"Y rhai garasant fore'u hoes,
Anfynych cânt gyd-fyw,
Gobeithion a ffurfiasom gynt
Aeth gyda'r gwynt yn wyw:
Gan amser fe'n rheolir oll,
Llawn coll yw bywyd Gwen.
A siawns daw'r degfed ran neu rith
O'i dewis byth i ben."
Purion peth fyddai i'r gweinidog ddeall nad oedd ei gwmni ef yn anhebgorol i'w chysur. Ar y cyntaf, ni fedrai oddef y syniad o briodi Fred, ond erbyn hyn nid ymddangosai'r peth hanner mor amhosibl. Bob tro y cwrddent, cytgan barhaus Fred fyddai, "How I wish I could take you away with me! We will go away together yet." Yr oedd y darlun gyfodai'r geiriau hynny o'i blaen yn graddol dynnu golwg Gwen oddiar bob anfantais yn ei chysylltiad ag ef. A beth pe byddai i'w thadcu farw, a'i gadael yn unig?
Ni rannai Gwen y dedwyddwch newydd hwn ag Ann, Maesyryn, nag a neb arall ond Manw.
Un prynhawn Gwener tua dechreu Tachwedd, digwyddai Anna Ifans, Maesyryn, fod yn Isaber. Er pan ddaethpwyd i wybod am afiechyd yr hen wr, deuai gwragedd caredig y gymdogaeth o un i un ar brynhawnau i edrych am dano gan ddwyn rhoddion o dê a siwgr neu rywbeth arall. Ar hynt felly yr oedd Anna Ifans yn awr, ac wrth geisio cysuro Gwen adroddai a'i llais wylofus am afiechydon ereill tebig welsai yn ystod ei hoes, a'r modd y cawsid gwellhad. Er fod Dafydd Alun yn hen, gallasai fyw blynyddau eto. Yr oedd ei thad hi yn bedwar ugain a deuddeg yn marw.
"Fiodd y gweinidog ma?" gofynnai, gan graffu ar Gwen.