Tudalen:Bywyd Ieuan Gwynedd Ganddo Ef Ei Hun.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cwyd hyn eich meddwl ar eich taith,
Sydd wedi bod yn flin a maith:
Cewch olwg ar y Wlad sydd well,
Cyn esgyn i'r ardaloedd pell.
Ffarwel, FY MAM!-i chwi a'm tad
Cyflwynwn ein hanerchion mad :
Os na chawn byth eich gweld yn nhref,
Cawn gydgyfarfod yn y Nef.

XVI. DYDD ANGLADD FY MAM.

Ac fel hyn, o don i don, ac o nerth i nerth, hi deithiodd ddyffryn adfyd, hyd nos Lun, Ion. 29, 1849, pan y safodd peiriant natur, ac y gadawodd yr enaid yr hen gartref y trigasaí ynddo am 76 o flynyddoedd ond ychydig o wythnosau. Bu farw yn dawel ac yn orfoleddus, meddant i mi. Ond ni chefais yr hyfrydwch trymllyd o ganu yn iach iddi. Yn y munudau yr oedd hi yn gadael pob gofid, yr oeddwn i a chyfaill iddi yn gwneud rhyw drefniadau bychain er ei chysur dyfodol; ond nid oedd eu heisieu. Yr oedd erbyn hyn yn etifedd pob peth. Ar y Mercher canlynol, ar ol dychwelyd o'r swyddfa yn siriolach nag arferol, y peth cyntaf a dderbyniwn oedd llythyr caredig fy hen athraw hybarch, Mr. Jones o Ddolgellau, yn fy hysbysu nad oedd i mi fam mwyach. Nid oedd gennyf bellach ond ymdrechu talu y gymwynas olaf iddi; a thrwy gymhorth ager a cherbydau, dygwyd fi mewn ugain awr i ben taith o wythnos ychydig flynyddoedd yn ol. Yr oedd fy nhad yn weddw, eto, yn hyfrydach ganddo fy ngweled, efallai, nag erioed o'r blaen. Am fy mam, yr oedd hi yn ddistaw iawn,-y waith gyntaf i mi ei gweled yn ddistaw ar fy ymweliad â chartref. Ond nid oedd yn awr na gair na deigryn fel y bu Yr oedd y prydweddau yn lled. debyg fel arferol, ond eu bod yn oerion iawn. Nid oedd llinell o'r wynepryd o'i le, ond y bennaf-bywyd. Ac y mae yn deimlad crynllyd, synllyd, a dychrynllyd i blentyn edrych ar yr hon a roddes fywyd iddo, heb fywyd ei hunan.

Ond y mae yn bryd dechreu yr ŵylnos. Mae y "Beibl Coch" ar y bwrdd, a'r Llyfr Hymnau. Daw yr hen gymydogion i mewn o un un nes oedd y ty yn llawn. Mae Mr. Jones o Ddolgellau wedi