Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysgolion Brutanaidd, yr hon oedd i'w gweithio ar linellau anenwadol. Ac yng nghanol helyntion y cyfnod, yr oedd Tomos Efans yn blentyn, y gosodwyd i lawr seiliau y Gyfundrefn Addysg sydd gennym heddiw, ond sydd heb ei pherffeithio eto. Cerddai ein brawd drwy yr helyntion hynny yn fachgen diniwaid a meddylgar, ond digon posibl mai ychydig a wyddai am y nerthoedd mawrion dyfent o'i gwmpas hyd nes iddynt ymgorffori yn ffeithiau yn Neddf y Bwrdd Ysgol, a'r Ysgolion Canol a'r Prifysgolion i Gymru, y rhai y cafodd fyw i'w gweled led- led y Dywysogaeth. Diau iddo gael llawer o fwynhad ac ysbrydiaeth yng nghyffroadau cyfnod ei faboed. Ond nis gallwn feddwl iddo gael llawer o help personol allan o honynt, oherwydd amlwg yw ei fod wedi gosod ei nôd o'i flaen; a chan ei fod wedi dechreu gweithio yn ddeuddeg oed rhaid mai defnyddio ei ben a'i bastwn ei hun a wnaeth, a gwneyd ei hun yn athro iddo ei hun, fel y bu raid i lawer ereill wneud yn y cyfnod hwnnw. Rhaid i bawb gydnabod fod y cyfnod cyn 1860 dyweder, wedi cynyrchu cnwd o ddynion athrylithgar a diwylliedig, y rhai a adawsant waddol mawr mewn Llên, Barddoniaeth a Cherddoriaeth i oesau sydd i ddod. Meddylier am Lenyddiaeth gofnodol y cyfnod, a'r darllenwyr oedd yn y wlad y pryd hwnnw. Nid oes ond eisiau cymharu dyweder o 1850 hyd 1890, ddeugain mlynedd, ac o 1890 hyd 1930, deugain arall, er gweled y gwahaniaeth yn ansawdd y Lenyddiaeth ac yn chwaeth y darllenwyr. Dynion wedi eu magu mewn anfanteision oeddynt gynyrchwyr y Llenyddiaeth o 1850 hyd 1890; a dynion wedi cael y manteision goreu fedrai yr ysgolion goreu, yr Ysgolion Canol a'r Prifysgolion ei estyn iddynt,