Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae llythyrau y cymanfaoedd o'm blaen, ac nid oes air o son am Tomos Efans fel pregethwr cynorthwyol hyd y flwyddyn 1866. Yn y flwyddyn hon cawn ei enw y tro cyntaf fel pregethwr cynorthwyol "T. Ifans, Conwy". Ni chadwai y Gymanfa (D. F. a Meirion) restr o'i phregethwyr cynothwyol cyn y flwyddyn 1866. Gallai ei fod yn pregethu er 1859, ond Llythyr 1866, fel pregethwr cynorthwyol, ac fel "T. Efans, Conwy," y cawn ei enw gyda'r pregethwyr cynorthwyol, hyd y flwyddyn 1868. Felly, yno yr oedd yn byw, ac yn aelod. Yn 1869 cawn ei enw gyda'r pre- pothwyr cynorthwyol fel "T. Efans, Fforddlas," wedi dod yn ei ol i fyw i'w hen ardal, ac yma y cawn ef yn yr un cymeriad hyd 1874. Yn 1875 ceir ef yn weinidog Conwy, yng Nghymanfa Arfon yn awr. Yr oedd Llandudno, Glanwydden, Conwy a'r Roe Wen yn aelodlau o Gymanfa D. F. a Meirion cyn 1870. Derbyniwyd y podair, trwy lythyr, i Gymanfa Arfon, a gynhaliwyd ym Mhwllheli, Mehefin, 1870.

Rhaid felly mai yn 1875 yr ordeiniwyd ef i fod yn weinidog Conwy. Yr oedd rhif yr Eglwys y flwyddyn honno yn 23, a 28 yn yr Ysgol Sul. Rhywbryd cyn Mehefin, 1877, rhoddodd i fyny i ofalu fel gweinidog am Gonwy, a chawn ef yn "weinidog heb ofal," wedi dod yn ei ol i Gymnanfa D. F. a Meirion, ac yn aelod o'r Fforddas, ac felly y parhaodd am 31ain mlynedd yn weinidog heb ofal. Bu'n ffyddlon a defnyddiol iawn yn y cylchoedd agosaf i'w gartref. Ni pheidiodd a gwasannothu Conwy yn ffyddlon ac yn effeithiol wedi rhoddi i fyny eu gofal fel gweinidog. Yr oedd aelodau Conwy yn 32 yn 1877. Nid oes air am ei symudiadau yn y naill gymanfa na'r llall, ond yn yr ystadegau. Nid oedd neb mwy derbyniol na Tomos Efans, Fforddlas,' yn holl eglwysi y cylch. Bu'n ddiwid a ffyddlon yng ngwasanneth ei Feistr hyd y diwedd.

Nis gallai fyned ar y Suliau ond i'r manau hynny lle y gallai fynd a dod, gan fod rheidrwydd arno i fod gyda'i waith ar y Lein o fore Llun hyd brynhawn Sadwrn. Ac yn gyffredin byddai ganddo deithiau pell i'w cerdded ar y Suliau. Cofiwn ef yn dda wedi cerdded ar fore Sul i daith Llangernyw; pregethu dair gwaith, ac eisiau