Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dylai y darllenydd gofio mai amcangyfrif o'r milltiroedd i bob man, un ffordd, sydd gennym i lawr, felly dylid dyblu y cyfryw i gael rhyw syniad gwan am ei lafar di-flin. A chofied y darllenydd mai hanes gweinidog a ddilynai ei ddiwrnod gwaith yw yr uchod, ac nid un oedd yn y weinidogaeth feunyddiol. Cofier, hefyd, nad ydyw y daflen yn cynnwys ond oddeutu hanner ei oes fel pregethwr.

Er enghraifft, dywedodd un o ddiaconiaid Roe Wen, ar ol marw ein hannwyl frawd, "Y mae ein diweddar frawd wedi bod yn hynod o ffyddlon i ni yn y Roe Wen. Yn yr amser y bu yn dyfod i'r Roe Wen pregethodd 1,152 a weithiau, cyfrannu yr ordinhad 576 o weithiau, a cherdded 11,520 o filldiroedd i'n gwasanaethu. Pwy na ddywed, 'Well done ? Ond nid yw hyn ond rhan fechan o'i lafur ef."

Byddai yn gwasanaethu yr eglwysi gartref yn Fforddlas ac Eglwysbach bob pymthegnos am flynyddoedd yn olynol pan y byddent heb yr un gweinidog, ac wrth fyned trwy restr ei destunau, gwelir y byddai ganddo beregeth newydd bob tro. Yr oedd ei fywyd sanctaidd a'i brofiad dwfn a gwirioneddol o nerth a gwerth ysbrydol yr efengyl yn ei fywyd ef ei hunan yn sicr o fod yn help iddo i