Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn ardal wedi iddo fod yno nag am y Gŵr sydd yn destun y weinidogaeth, y mae rhywbeth heb fod yn iawn yn y bobl sydd yn gwneud hynny, ac yn y pregethwr hwmw hefyd, fe ddichon. Y peth sydd yn hanfodol bwysig ydyw fod y pregethwr yn "gwybod y Ddysgeidiaeth," pa un bynag a fydd yn ddysgedig ai na fydd. Gwyddai "Cyndelyn" y "Ddysgeidiaeth." Yr oedd ganddo brofiad o'i nerth, ei gwerth, a'i chynnwys yn ei enaid ei hun. Amcanai yn wastadol roddi i'w wrandawyr yr hyn a wyddai, ac a brofai ei hunan. Yr oedd ei bregeth fel ei fywyd, yn dawel a dirodres; deuai ei bregeth trwy ei galon ef ei hun, a hawdd oedd gweled a theimlo wrth ei wrando yn ogystal ag wrth ymddiddan ag ef ei bod yn bwysig iawn yn ei olwg pa beth a ddywedai "ddoe" wrtho am "yfory" o hyd. Holai ei galon pa beth a wyddai am yr hyn a ddywedai bob amser. Caem yr argraff hon bob amser yn ei gwmni ac wrth ei wrando yn pregethu. Ac yn y goleu hwn, gosodwn ef yn uchel ar restr pregethwyr mawr y Bedyddwyr yn ei oes. Nid y pregethwyr poblogaidd a feddyliwn, ond y pregethwyr mawr. Y pregethwyr mwyaf buddiol, fel y credwn, yw y pregethwyr mwyaf bob amser. Hoffaf ddisgrifiad Cowper o bregethwr. Etyb y diweddar Tomos Efans iddo yn llawn ni gredwn, heb eisiau gadael gair allan. Fel hyn y mae

"Would I describe a preacher ...... I would express him simple, grave, sincere. In doctrine uncorrupt, in language plain, and plain in manner, decent, solemn, chaste, and natural in gesture, much impressed. Himself as conscious of his awful charge, and anxious. mainly that the flock he feeds may feel it too; affectionate in look, and tender in address, as well becomes messenger of Grace to guilty men."

William Cowper, The Task, Vol II., Book II.
2nd Edition, London, 1786, P.P. 65

Dyna fo Tomos Efans heb ddim gormod o ansoddeiriau.

Pregethai bob amser trwy eiriau detholedig, ac fel y lili dlos heb ddim geiriau, trwy ei gymeriad glân, Crist-debyg.