Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

FEL BARDD A LLENOR.

Yr oedd "Cyndelyn yn ŵr cyfarwydd a diwilliedig. Gallai gerdded mor henni ac ysgafndroed ar lethrau Parnanus. Yr oedd yn fardd wrth fraint a defod Beirdd Ynys Prydain. Ni wyddis pa le yr urddwyd ef. Tueddir ni i gredu mai yn "Arwest Glan Geirionydd", a hynny yn ol pob tebyg pan oedd yr Arwest yn ei bri mwyaf, yn amser Owen Gethin Jones, Trebor Mai, Ellis o'r Nant, Henry Gwynedd Hughes, Llenor o'r Llwyni, Clwydfardd, Gwalchmai, Dewi Hafesp, Tudno, Fferyllfardd, I. D. Ffraid, Glan Collen, Ioan Cernyw, a Gwilym Cowlyd, Bangorian, ac eraill yn ddiau, nad ydys yn cofio am danynt yn bresenol. Nid y lleiaf o feirdd yr Arwest oedd Cyndelyn, ac nid oedd neb ohonynt yn ddiau yn fwy gostyngedig, dirodres a diymffrost nag ef. Yr ydoedd yn feistr ar y mesurau caethion fel eu gelwir. Rhodiai yn berffaith rydd yn hualau Dafydd ap Edmwnt, a medrai fod yn syml a naturiol yn y mesurau rhyddion hefyd, fel y dengys ei weithiau.

FEL BEIRNIAD.

Mynych y gelwid arno i feirniadu, a chadwai ei wybodaeth a'i onestrwydd Lenyddol ei glorian yn gywir bob amser. Byddai ei feirniadaeth yn fanwl ac addysgiadol yn wastad. Awyddai am helpu y rhai mwyaf anobeithiol mewn cystadleuaeth. Nid oedd Cyndelyn fel y mwyafrif o feirniaid ein prif Eisteddfodau, am ladd pawb ond y goreuon; ac yn ol beirniadaethau heddiw, nid yw y berniaid yn rhy garedig wrth lawer o'r ymgeiswyr goreu, y rhai allant wneud gwell gwaith na hwy eu hunain. Yn sicr, y mae bywyd yr Eisteddfod mewn perygl yn nwylo y bobl hyn heddiw. Nid gŵr fel yna oedd Cyndelyn; na, nid ymgymerai ef âg unrhyw orchwyl o'r fath oni allai ei wneyd er mantsis i fywyd yr Eisteddfod a'r ymgeiswyr. Gwr di-ddichell a naturiol oedd ef, phob amser yn cerdded ar dueddau moesol ac uchel, chwaeth a barn dda. Gwyddai mai nid mesurau chynghaneddion yw barddoniaeth; gwyddai hefyd fod gwisg dda yn harddu enaid a chorff cerdd, gan nad beth fyddai ei maint. Un o rinweddau amlwg barddas ydyw y gallu i roddi llawer mewn ychydig. Yr oedd bywyd