Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr ydoedd yn Llenor diwilliedig, er mai ychydig a adawodd ar ei ol ond mewn pregethau a barddoniaeth. Ychydig a ysgrifennodd i'r Wasg. Wel, nid oedd ganddo amser i hynny. Y mae ar ei ôl gnwd toreithiog o bregethau mewn llawysgrifen, a chyhoeddir ei weithiau. eraill yn y gyfrol hon.

YR EISTEDDFODWR.

Yr oedd Cyndelyn yn Eisteddfodwr pybur. Byddai alw mawr am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd, fel y dengys ei waith yn y gyfrol hon. Nis gallai fyned yn bell oddi cartref—bu yn cystadlu weithiau, ac yn ben campwr hefyd yn ei dro fel pawb arall.

NODIADAU CYFFREDINOL AR EI GYMERIAD.

Rhaid ei fod wedi byw yn ddiwid a meddylgar ar hyd el cos i gyflawni y gwaith a wnaeth, ac i gadw y safle enillodd, a'i fod yn feistr ar ei waith a'i amgylchiadau. Ni fu erioed yn gryf ei iechyd, ond daliodd ati, a chadwodd ei orsedd fel brenin arno ei hun a'i amgylchiadau yn holl gylchoedd ei fywyd gwerthfawr. Gŵr o deimladau dwys a thyner oedd efe, eto nid llwfryn ydoedd. Nage, safai fel y graig yn y mor heb syflyd yn y stormydd dros gyfiawnder a gwirionedd. Y nerthoedd cryfaf mewn bywyd yw cariad a thynerwch. Dyma dŵr cadarn i gymeriad pob dyn a dynes. Dyma yr unig alluoedd mewn bywyd fedrant lywodraethu y tafod fel y dywed y ddibareb Lladin :—"Power can do by Gentlenes that which violence fails to accomplish, and calmness best enforces the imperial mandate." Digon gwir, a yma ddywediad arall yn yr un iaith: "Gentle in manners, firm in reality." "Dyna Cyndelyn i'r dim.

EI YSBRYD CRISTNOGOL A MADDEUGAR

Gŵr tebyg iawn i'w Arglwydd oedd Tomos Efans, Fforddlas. Wynebai bob math o ddynion ac amgylchiadau yn dawel a diofn. Gwyddai yn dda fod poen ar lwybr dyletswydd yn llawer iawn gwell na holl bleserau y byd ar lwybr anufudd-dod i ewyllys Duw; ac fel pawb.