Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ATODIAD I'R COFIANT

Ysgrif gan y Parch. D. B. Harris, Cemaes, Môn, oedd yn Weinidog y Fforddlas ym mlynyddoedd olaf ein brawd ar y ddaear.

I.

Nid oeddwn i namyn mab dwyflwydd yn y weinid- ogaeth pan y symudais o Sir Fflint i gymeryd gofal Eglwysi Salem, Fforddlas, a Bryn Seion, Eglwysbach, ym mis Mawrth, 1903. Yr oedd yn perthyn i Eglwys enwog a henafol Salem, Fforddlas yr adeg uchod, ddau weinidog ac un pregethwr cynorthwyol. Nid heb gryn bryder yr atebais yr alwad a roddwyd i mi i'w bugeilio, oblegid yr oedd Eglwys Salem, Fforddlas, wedi cael yr enw ei bod yn magu cewri, ac yn ymhyfrydu mewn bwyd cryf, ac nid ar laeth a dail; ond ceisiais ymgysuro wrth feddwl nad hwyrach y profai y ddau weinidog parchus oedd yno i mi yn rhyw Aaron a Hur i gynnal i fyny fy mreichiau gweinion, byr-brofiad, ac yn wir ni chefais fy siomi; un o'r ddau hynny yw gwrthrych yr ysgrif hon, sef yr hynaws a'r hawddgar "Cyndelyn." Fel y gwyr llawer mai pensaer ac arolygydd cwmni yr L. and N.W. Railway, yn y "Permanent Way Department" ydoedd "Cyndelyn" wrth ei alwedigaeth feunyddiol, a pherchid ef gan y cwmni uchod, a gwerthfawrogid yn fawr ei wasanaeth; ond gwasanaethai eglwys y Bedyddwyr yng Nghonwy fel gweinidog misol. Yr oedd wedi dychwelyd i drigiannu yn nes i'w fro enedigol, ac yn byw yn yr Ashlands, Glan Conwy, pan ddeuthum i i'r Fforddlas, a gwasanaethai eglwys fechan y Rowen yn bythefnosol. Nid oeddwn yn cael llawer o gyfle i'w weled a mwynhau ei gymdeithas oherwydd ei fod yn brysur a rhwym wrth ei alwedigaeth ar y gledrffordd, ond ar ol iddo gyrraedd yr oed i roddi ei waith i fyny, cefais y fantais a'r fraint o gael mwy o'i gymdeithas, ac i ganfod y wythien aur