Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a oedd yn rhedeg drwy ei natur ddynol. Teimlwn bob amser ei fod yn ddyn glân yn ei gwmni. Nid oedd dim maswedd yn cael lle yn ei galon—yr oedd yn lân ei feddwl ei foes a'i wisg. Diau fod "Cyndelyn" heb os nac oni bae yn un o'r dynion gorau a fagwyd erioed yn ardal Annwyl y Fforddlas. Fel y nodwyd mai pensaer ydoedd wrth ei alwedigaeth, yr oedd felly hefyd wrth natur—bywyd y pensaer ddeuai i'r golwg ynddo fel dyn Christion—dyma'r argraff adawodd arnaf:

(a) Yr oedd yn bensaer yn ei gymwynasgarwch. Pan y daethum i'r Fforddlas nid oedd yr un ysgoldy gan yr eglwys i gynnal y gobeithlu a'r cwrdd gweddi a'r seiat, a lle i ddarparu lluniaeth ar achlysuron neilltuol. oedd yn amhosibl cael darn o dir ar werth gan neb i adeiladu ysgoldy, ond yr oedd rhyw gwt bychan yn nhalcen isa'r capel, ond yr oedd yn rhy fychan i wneud defnydd o hono heb gau y ffordd at y fynwent. Daeth Cyndelyn yna a gwnaeth y fath gynllun fel y medrwyd cadw y ffordd at y fynwent a lle hylaw yn y gwaelod i ferwi dwr a chadw'r glo a'r elor, &c., a goruwchystafell hwylus. Y syndod i mi yw ei fod wedi cynllunio ystafell mor ddefnyddiol o le mor anhebyg. Pwy ond pensaer & fedrai wneud yr hyn a wnaeth yn rhad ac am ddim.

(b) Yr oedd hefyd yn bensaer fel llenor a bardd a phregethwr. Ni chyfansoddodd ddarn o lenyddiaeth na barddoniaeth ond wrth gynllun. Wedi tynnu cynllun, adeiladai yn unol a'i gynllun—pob gair a brawddeg yn eu lle, a adeiladwaith yn gelfydd a gorffenedig. Ni chefais y fraint o'i wrando yn pregethu ond unwaith yn unig. Pregethai y pryd hwnnw oddiar y geiriau "Yr awrhon y mae yn aros ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, ar mwyaf o'r rhai hyn yw cariad (1 Cor., 13. 13) Arafodd arnaf ei fod yn bensaer yn y pulpud-mor fedrus a deheuig oedd ei gynllun. Yr oedd ei bregeth yn drefnus a chelfydd a choeth, a gorffenedig—pob drws yn yr adeiladwaith yn ei le priodol, a phob ffenestr yn gyfateb i faintioli'r adeilad. Gwnaeth un sylw oedd fel math ar "bay window" i gael golwg eang a phell drem ar y tir pell. Ebai, "Un rheswm fod cariad yn fwy na ffydd na gobaith yw ei fod yn fwy dwyfol; peth dynol yw ffydd a gobaith, ond peth dwyfol yw cariad—Duw