Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cariad yw. Y mae ffydd a gobaith fel dau blentyn yng nghwmni cariad eu tad. Y mae llawer plentyn naturiol yn dyfod yn gymaint a'u tad, ond ni ddaw ffydd gobaith byth yn gymaint a'u tad; meidrol yw ffydd a gobaith, ond y mae cariad yn anfeidrol." Cefais fwynhad a bendith wrth ei wrando. Yr oedd llawer mwy o sylwedd nag o swn ganddo. Yr oedd yn pregethu fel yr oeddynt yn adeiladu'r deml gynt, nid oedd swn y morthwyl ganddo yn y pulpud. Nid ar Seinai y codai ei bulpud, ond ar Hermon. Nid oedd byth yn creu mellt a tharanau ac yn peri llifeiriant nes rhwygo'r galon. Fel gwlith Hermon oedd efe ar fynyddoedd Seion, canys yno y gorchymynodd yr Arglwydd ei fendith. Tu ol i'w genadwri yr oedd ei gymeriad gwyn a phur yn ei chymeradwyo i'r gwrandawyr. Gallasai ddweud gyda'r Salmydd, "Dy ddeddfau oedd fy nghân." Yr oedd bob amser yn gosod ystyr i bob peth wnai. Yr oedd yn aelod dillyn o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn ol defod a braint, chyfenwodd ei hun yn "Cyndelyn." Gofynais iddo pa beth a'i cymhellodd i ddewis yr enw. "Cyndelyn," atebodd, y mae y bardd yn henach na'r cerddor, cyn bod telyn yr oedd bardd."

(c) Yr oedd yn bensaer fel dinesydd. Yr oedd gan bawb air da i "Cyndelyn," a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd yn dangnefeddwr mawr, ac felly yn blentyn i Dduw. Ni chlywodd neb air brwnt na miniog o'i enau ef erioed. Gallesid ei alw yn foneddwr o Gristion. Dywedir na fedr y wenynen sydd a llond ei mynwes o fel bigo. Yr oedd Cyndelyn mor llawn c fêl gras a gasglodd oddi ar flodau cariad yr efengyl fel na fedrai bigo neb. Ni adawi i neb ladd ar ei gyd- ddyn, heb ei fod yn gwneud fel y canodd Ceiriog : "

Pan glywodd lefaru llysnafedd a pharddu,
Gan ladd a thrabaeddu;
Rhowch air i mewn o radd i radd,
A chofiwch chwi ganmol y sawl fo' nhw'n ladd".

Felly y byddai Cyndelyn yn gwneud bob amser.

(ch) Mynodd orffen ei yrfa fel pensaer". Ni welais i neb' mor hamddenol a boddlon ar wely angau. Yr oedd