Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fel un wedi gorffen ei waith yn myned i orffwys a huno, wedi cyrraedd ohono ddyddiau'r addewid yn llawn. Diosgodd arfau ei filwriaeth dda. Gosododd ei gleddyf gloyw wrth draed y Pentywysog, a gafaelodd yn ei delyn Chwefror 10, 1908, yn 71 mlwydd oed.

Ac y mae efe, er wedi huno, yn llefaru eto yn y gyfrol fechan hon, ac nid aiff ei lafur yn ofer; fel y dywed Browning yn ei Abt Volger, "All we have wielded or hoped or dreamed shall exist, not its semblance but itself; no beauty, nor good nor power whose voice has gone forth, but each survives the melodist," ac yn y gyfrol hon wele lais Cyndelyn yn myned allan i fodoli a gorfucheddu ei oes.

Cyndelyn y cenad hylwydd,—dorwyd
I'r byd arall dedwydd,
Ei enw gwyn, bâr yn ein gwydd
Aroglau fel gardd yr Arglwydd.

Didwyll a hoff gredadyn,—ŵr o bwyll,
Llenor a bardd dillyn;
Un doeth fel Cristion, a dyn
O dalent oedd Cyndelyn.

Gweithiodd gan ddwys bregethu,—"Gwaed y Groes"
Gyda grym ei allu:
A chariad y Ceidwad cu,
Yn ei osod i ysu.
B. D. HARRIES.

II.

LLYTHYR ODDIWRTH MR. EDWARD E. JONES.

62, North Washington Ave.,

Columbus, Ohio.

Annwyl Gyfeillion,–

Chwith iawn gennyf anfon llythyr heb ddweud Annwyl Frawd. Pan welais yn "Drych" fod y Parch. Thomas Evans wedi gorffen ei daith yn y fuchedd hon, fe ddaeth mil o bethau i'm meddwl, ac O! yr