Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hiraeth ddaeth arnaf, ffrind borau oes, y ffrind cyntaf erioed, ffrind gorau, dim twyll, para felly am dros 58 mlynedd. O mor chwith gennyf feddwl am Tomos Marged Evans yn ei fedd, felly yr oedd ef i'w adnabod, Ned Edward Jones a Tomos Marged Evans, er fod gan Ned fam a Tomos dad, ond fel yna yr oeddym ni yn cael ein hadnabod. Yr oedd Tomos yn well bachgen na fi, mwy diniwed, oedd neb yn fy ngalw yn hogyn drwg ond yn hogyn direidus, ond nid wyf yn meddwl fy mod wedi bod yn faen tramgwydd i'm cyfaill. Y fi oedd y cyntaf hefo crefydd ac yntau yn ail, ac fe'n dilynwyd gan W. Davies a'r wraig, a Sarah y Maesydd, a Lisa Roberts, Bwlchwernhir. Nid wyf yn siwr fy mod yn gywir yn yr hanes, fe allai fod fy mrawd hoff, Parch. W. Davies yn gwybod yn well; yr wyf wedi anghofio rhai, buasai yn dda iawn gennyf gael yr hanes y dydd Sul hwnnw wrth ag yn llyn felin ucha, mi ysgrifennais yr hanes yn fanwl ond fe wnaeth rhyw lygoden fach ei nyth yn yr hanes; nid oedd yr un fach ddim yn gwybod y golled wnaeth i mi. Gwelwn ei fod wedi dechrau pregethu yn 1859, dwy flynedd wedi i mi adael y Graig. Gadawais i yn 1857, Mai 5, yn cychwyn o Lerpwl. Yr oeddwn yn deall iddo bregethu 1,152 o weithiau[1], ac O drueni, ni chlywais ef ond un waith yn y flwyddyn 1875, yn y Brynpwllbydr.[2] Aeth ef a minnau un prynhawn Saboth, ac mi gefais y fraint o gario ei gôb ucha. ac fe gefais fraint arall, dechreuais yr odfa iddo, ond nid am gario ei gôb c chwaith, [dar ar goll yn y fan hyn.-E.E.], y milldir- oedd gerddodd, a minnau ddim yn y cyfrif hwnnw pan oedd ef yn y Croesau, a finau yn Ffrithyfoel, degau ag ugeiniau weithiau i'r Fforddlas. Yn yr adeg hono y bedyddiwyd ef minau, diwinyddiaeth fyddai y siarad braidd bob amser Ond un noswaith, wrth ddod adra o Fforddlas, aeth ef a minau yn dipyn seryddwyr; y gofyniad oedd paham yr oedd rhyw ddwy seren mor agos i'w gilydd. Yr oeddym yn sefyll wrth wal gerrig sydd wrth rhyw gae

  1. Nodiad.—Pregethodd lawer mwy na 1,152 o weithiau. Gol.
  2. Bryn Seion, Eglwysbach.