Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hir yn perthyn i'r Croesau, yn rhedeg i lawr gyda chaeau y Maesydd, mae y ddwy seren yno o hyd, yr wyf yn eu Weled yn aml, ac yn cofio am y tro, wedi hynny, yr ef a finau yn y Llan hefo'n gilydd, efe hefo Dr. Williams, a minau hefo [darn eto ar goll.—E.E], ond ni chymerais erioed y fantais i edrych i lawr arno ef, oblegid yr oeddwn i wedi llwyr gredu ei fod yn well bachgen nag oeddwn i. Wel, gyfeillion hoff, yr wyf wedi bod yn hir Iawn yn anfon atoch, wn i ddim a oes maddeuant am bechod fel hyn ai peidio Pan oedd yn dweud fod llawer wedi marw yn y cymdogaeth, buasai'n dda gennyf gael eu henwau. Mae yr hen gartref yn ddieithr iawn i mi. Wn i ddim beth oedd oed Robert, wn i ddim pa un ai byw ai marw yw Mary, fy chwaer, pa faint sydd o deulu fy chwaer Elizabeth yn fyw. Yr wyf yn anfon hyn o lythyr atoch, ni fyddai ein hanes ni yn fawr o gysur i chwi, yr wyf fi a'r wraig yn byw mor gysurus ag y gallwn nid ydym mor iach ag y dymunem ni fod, ond fe allai fod lawer iawn yn waeth.

byddwch wych oll.

III.
LLYTHYR Y PARCH. R. T. OWEN

6"Gloddaeth House"

10, Chapel Street,

Llandudno,.

Mawrth 28ain, 1935

At Mr. Edwin Evans.

Annwyl Frawd, —Drwg gennyf nad oeddwn gartref pan alwasoch..... Parthed cofiant eich annwyl dad teimlaf beth anhawster beth i'w ddweud nid oherwydd prinder am gymeriad oedd mor lawn o rinweddau a grasusau yr Efengyl a'i deyrngarwch llwyr i'w Annwyl Geidwad, ac yn wyneb hyn, y mae dau o bethau perthynol iddo yn dod i'm cof. I'r diweddar frawd William Roberts, Cae Robin, yr ydwyf yn ddyledus am hyn. Dywedai mai wanaidd oedd Tomos Efans yn nechrau ei oes, ac nad nodd lawer o obaith am hir oes iddo, ac yn bur naturiol parai hyn lawer o bryder i'w rieni annwyl. Modd