Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IV
CYNGOR HEN WEINIDOG I BREGETHWR IEUANC.

"Fod pregthwr yn debyg i saer coed yn curo hoel fwrdd caled; digwydd weithiau na fydd ganddo hoel o werth Pregethwr yw hwnnw yn amddifad o bregeth. Un arall a chanddo hoel, ond heb forthwyl. Pregethwr heb dawn i draddodi yw hwnnw. Y mae arall gyda hoel a morthwyl, ond heb ebill ganddo i dyllu y bwrdd faen yr hoel. Pregethwr heb gymeriad da yw hwnnw. Un arall sydd a chanddo yr holl bethau hyn, eto yn gyrru y hoel yn afrwydd y mae, am nad oes ganddo olew i dochi yr hoel ynddo. Pregethwr yn fyr o'r eneiniad ar eil ysbryd yw hwnnw drachefn. Ond y mae un arall yn fwy anhapus na'r cyfan; un yn meddu hoel a morthwyl da, ond pan y bydd yn amcanu taro yr hoel, bydd yn taro ei fys yn wastad. Yr hyn y mae y pregethwr yn gondemnio yn eraill, y mae yn euog o honno ei hunan. Bydded gennych ffydd a chydwybod da. (Y mae y dernyn uchod o'm blaen yn llaw-ysgrif Tomos Efans, a gwelaf lawer o'i ddelw arno mewn mwy a un ffordd. Ni wyddis mai ei waith ef ydyw, ond y mae yn werth i fod i mewn.-Gol.)

V.
ACHOSION NEWYDD.

Gwelodd er ei lawenydd godi llaweroedd o achosion newyddion yn ei ddydd. Cafwyd cnwd toreithiog nid yn unig oddychweledigion, ond o achosion a chapelau newyddion i'r Bedyddwyr ar ol Diwygiad nerthol 1859. Cafodd ef y fraint o bregethu yn y lleoedd canlynol a nodwyd yn ei oes bregethwrol ef: Abergele, 1862, Bodgynwch, 1862 (nid 1852 fel y mae yn y Dyddiadur 1935), Cargybi, Hebron, 1862; Colwyn, 1862; Bau Colwyn, 1888 Eelwysbach, 1878; Ffestiniog, Seion, 1860; Calfaria, 1871; Moria, 1890; Ffynnongroyw, 1892; Glan-Adda, Bangor, 1892; Groeslon, 1871; Cyffordd. Llandudno, 1900; Llanfairtalhaearn, 1862; Llanfairfechan,