Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

1878; Llysfaen, 1884; Porthaethwy, 1884; Penmaenmawr 1892; Ochr y Penrhyn, 1895; Bethania, Rhos, 1905; Rhosneigr, 1895; Valley, 1868. Nid y ddwy ar hugain hyn yn unig â godwyd i'r Bedyddwyr yn ei amser ef. Nid ydys yn sicr iawn am ddyddiad corffoliad yr Eglwysi hyn, gan y rhoddir yn y Dyddiadur yn y golofn Corffolwyd," weithiau adeg adeiladu y capel, ac nid adeg y corffoli, megis yn hanes Ffynnongroyw. Corffolwyd yr eglwys yno Gorffenaf 10fed, 1890. Dylid rhoddi y Dyddiadur a phethau fel hyn yn y ffwrnes, a llosgi pob celwydd sydd ynddo.

VI.
LLONDER EI YSBRYD YN LLWYDDIANT YR EFENGYL

Nid oedd dim a lonai ei ysbryd yn fwy na gweled gwaith yr Arglwydd yn llwyddo, a'r saint yn codi allorau iddo yng Nghymru annwyl. Ceir nodiad yn ei Ddydd-lyfr sydd yn dangos llonder ei fywyd wrth weled achos yr Arglwydd yn llwyddo ym mhob man, ac yn arbennig felly yn Salem, Fforddlas. Dywed hanes y Sul, Chwefror 12fed, 1905, pan fedyddiwyd yno 23 gan y Parch B. D. Harris, y Gweinidog. Dywed fod yr Eglwys yn Fforddias wedi cyrraedd cant a chwech mewn rhif, a rhydd enwau y rhai a fedyddiwyd ac a adferwyd. Wrth ddarllen y cyfryw teimlwn fod swn ei orfoledd yn yr awyr o'm cwmpas am y gwyddwn mai felly yr ydoedd.

Yn yr un Dyddlyfr ceir ganddo gyfrif dychweledigion yn y Diwygiad ddiwedd y flwyddyn 1904 a dechrau 1905, wedi ei godi o'r "Pioneer," Chwefror 9fed, 1906, yr hwn a ddengys i'r enwadau gael ychwanegiadau fel y canlyn: Bedyddwyr, 24,133; Annibynwyr, 13.490; Methodistiaid Calfinaidd, 8.133, a'r Methodistiaid Wesleyaidd, 7,481.

VII

Syniad uchel y diweddar Mr. Tom Davies, o'r Cefn Mawr, Arweinydd y Gân yn y Tabernacl am lawer o flynyddoedd, am y diweddar Barch Tomos Ffans fel pregethwr: