Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd y diweddar Mr. Tom Davies wedi bod yn- wael ei iechyd, ac wedi gwella yn ddigon da i fyned i Gartref (Convalescent Home), Rhyl. Mr. Davies oedd tad yr enwogion Emlyn Davies, Ysw., y cerddor enwog; Gethin Davies, Ysw., y gŵr defnyddiol ac adnabyddus; a'r diweddar Barch. Arthur Davies, Porthcawl, sydd a'i enw yn perarogli.

Bu Mr. Tom Davies yn y Rhyl am rai wythnosau, ac yn ol ei arfer gartref yn y Cefn, elai i'r Tabernacl bob Sul yu fyddlon yn y Rhyl. Ac yn ol a ddeallaf yr oedd doniau gwahanol yno bob Sul, ac ar un o'r Suliau hynny yr oedd y diweddar Barch. Tomos Efans (Cyndelyn) yno y pregethu. Cafodd Mr. Tom Davies y fath fwynhad yuddo fel pregethwr. Gosododd ef yn uchel iawn ar lechres y Pregethwyr Mawr; ni flinai son am dano, ac o fewn, rhai wythnosau wedi iddo fyned gartref yn ol i'r Cefn Mawr, yr oedd Eglwys y Tabernacl yn dewis pregethwyr i'w chwrdd blynyddol. Gwnaeth Mr. Davies araith a gariodd bawb gydag ef, a chynigiodd y Parch. Tomos Efans, Fforddlas, a phasiwyd gydag unfrydedd i'w gael. Anfonwyd ato a disgwyliwyd yn aiddgar am ei ateb, yr hwn a ddaeth yn diolch yn gynhesol iddynt am eu gwahoddiad anrhydeddus, ond nas gallai feddwl am ddod yn ol eu cais, ei fod yn pregethu yn yr Eglwysi o gylch ei gartref, ond na allai feddwl am fyned i "Gwrdd Mawr " unrhyw gyfrif.

Dyna Tomos Efans, Fforddlas, yn union fel ef ei hun Cefais yr hanesyn uchod gan T. G. Jones, Ysw., Coedllai, diweddar Brifathro Ysgol y Cyngor yng Nghoedlai, a mab i'r diweddar Barch. G. R. Jones, cyn-weindog y Fforddlas, oedd yn weinidog y Tabernacl, Cefn Mawr, ar y pryd.

Dywedodd Mr. Jones iddo ysgrifennu yr hanesyn i "Seren Cymru," ond nad oedd yn cofio pa flwyddyn, ac nid oes amser i chwilio am y cyfryw. Gobeithiaf na wneuthum gam ag ef. Diolchaf i'm cyfaill hoff am ei ddweud wrthyf pan oeddwn yn cardota am ddefnyddiau yng Nghymanfa Rhuthyn.—Gwyddno.