Tudalen:Bywyd a Chan Tomos Efans (Cyndelyn).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ei fendigedig Geidwad.—a gododd,
A'i gadarn gymeriad;
Yn ddi-len ei ddylanwad
Sy' ar lwydd Eglwysi'r wlad.

Adwaenir ei rawd union
A'i wir ffyrdd drwy'r argraff hon—
Yma yn huno ceir mwyn awenydd,
Cywir ei ofal, dros achos crefydd;
Gwylaidd ei enaid, gloew ddiweinydd,
Yn dilyn rhodiad ei lân Waredydd;
Yn ei foes i'r ddalen fydd,-a'i waith da,
Yn swyn na wywa, a'i oes yn newydd.