Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bywgraffiad, ni chyhoeddwyd ef hyd 1864. Yr oedd y llafur yn fawr iawn. Mae y gyfrol yn un fawr, drwchus, o 622 o dudalennau. Mae darllen y llyfr hwn, a syllu ar wynebpryd hardd yr hen wron yn ei ddechreu—yr hwn, ynddo ei hun, sydd yn fath o ysbrydoliaeth i'r neb a'i gwelodd—a nodi arddull brydferth a choeth Mr. Richard o ysgrifennu, a'r syniadau goruchel a chrefyddol sydd yn gymhlethedig â'r cyfan trwy yr holl gyfrol, yn gadael argraff ddofn a daionus ar bob meddwl ystyriol. Ac nid oes dim yn yr holl gyfrol yn fwy hynod na'r gwyleidd-dra gyda pha un y mae Mr. Richard yn gallu anghofio ei hun yn y Cofiant, a hynny pan yn croniclo digwyddiadau y rhai yr oedd ganddo ef law mwy arbennig ynddynt nag oedd gan Mr. Sturge ei hun.

Fel y gwyddys, yr oedd Mr. Richard hefyd yn gyfaill mynwesol i Mr. Cobden a Mr. Bright. Iddo ef yr ydys i fesur yn ddyledus am y cysylltiad agos rhwng y ddau wr enwog hyn a'r Gynhadledd Heddwch.

Yr oedd gwybodaeth hanesyddol Mr. Richard mor fawr, a'i gydnabyddiaeth helaeth, fel y dywedwyd, â'r "Llyfrau Gleision" a gyhoeddid mewn perthynas i ryfeloedd Prydain, yn ei wneud yn wasanaethgar iawn i'r ddau wleidyddwr enwog pan mewn angen cyfnerthu eu hareithiau â ffeithiau o'r