Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fath. Tua diwedd 1868, gwahoddwyd Mr. Richard i dreulio rhai dyddiau gyda Mr. Cobden yn ei dŷ yn Midhurst. Buasai yn ddifyr myned dros yr hanes fel y mae i'w gael yn nyddlyfr Mr. Richard, ei ymddiddanion a Mr. Cobden am Mr. Gladstone a Mr. Bright, y pwnc o heddwch, a phynciau gwladwriaethol yn gyffredinol, ond rhaid myned heibio. Nis gallwn eu talfyrru heb wneud cam â hwynt.

(1865) Pan fu farw Mr. Cobden yn 1865, gofynnodd ei weddw i Mr. Richard ysgrifennu Bywgraffiad iddo, yr hyn sydd yn dangos y parch oedd ganddi iddo, a'r ymddiried llwyr a feddai yn ei alluoedd, a'i gymhwysder i gyflawni gwaith mor bwysig. Pan ar ymweliad a Switzerland, ac yn ei unigrwydd tawel, dechreuodd Mr. Richard drefnu llythyrau Mr. Cobden ar gyfer y Bywgraffiad; ac yr oedd ei ddyddordeb ynddynt yn fawr iawn. Ond yr oedd ei orchwylion mor lluosog fel y methodd ag ymgymeryd a chwblhau y gwaith, ac yn y diwedd cyflwynwyd ef i ofal Mr. John Morley, yr hwn, fel y gwyr ein darllenwyr, a ysgrifennodd ddwy gyfrol o Fywgraffiad i'r Rhyddfrydwr hyglod hwn. Ond er nad ysgrifennodd Dr. Richard Gofiant Mr. Cobden yn gyfrolau, ysgrifennodd erthygl gampus arno i'r Enclyclopædia Britannica, ac y mae ei darllen, medd un awdwr,