Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

braidd yn peri i ni ofidio na fuasai wedi gwneud y gwaith a ymddiriedwyd i Mr. Morley, er cystal ydyw y Cofiant hwnnw.

Mae yn demtasiwn i ni yn y fan hon i roddi geiriau Mr. Richard yn y Gynhadledd Heddwch a gynhaliwyd yn Newcastle-on-Tyne yn 1865, mewn cyfeiriad at Mr. Cobden.

"Dydd Gwener diweddaf," meddai, "sefais uwchben bedd Mr. Cobden, ac i gyfaddef fy ngwendid wrthych, pan yn edrych i'r gell, a gweled yr arch yno, a galw i gof mor hir y bu y dyn hwnnw yn dir o gadernid i mi, ar yr hwn y gallwn bwyso bob amser; ei ddoethineb mewn cyngor, a'i wroldeb anbyblig mewn gweithredoedd, tuedd gyntaf fy ngwendid oedd penderfynnu mai gwell fyddai i mi encilio oddiwrth bob rhan o lafur cyhoeddus, a rhoi y cyfan i fyny mewn anobaith a digalondid. Ychydig o fisoedd yn ol, yr oeddwn wedi bod yn cydgerdded ag ef ar hyd yr un ffordd ag yr aeth yr orymdaith angladdol ddydd Gwener, a gallwn gofio y sylwadau a wnai ar fannau neilltuol o'r ffordd; a'm teimlad, fel y dywedais, oedd, ar ol colli y fath golofn o nerth, i roddi popeth i fyny, Ond fy ail feddwl oedd, mai nid dyna'r wers yr oedd bywyd ac esiampl Mr. Cobden wedi eu dysgu i'w gyfeillion ar ei ol; y dyn hwnnw, yr hwn, bum mlynedd ar hugain yn ol, a gododd ei lais ymysg ei genedl o blaid masnach rydd a heddwch rhwng cenhedloedd, a'r hwn a barhaodd hyd ddydd olaf ei fywyd yn ffyddlon a di-ildio i ymlynnu wrth egwyddorion ei ddyddiau boreuol. Ai iawn, gan hynny, oedd i mi gilio oddiwrth y gwaith a roddasai Rhagluniaeth i mi i'w gyflawni? Na, fel Cadfridog Carthaginia, yr hwn