Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VI

Mr. Richard yn ceisio deffro Etholwyr Cymru,—Llythyrau a Thraethodau ar Gymru—Ei etholiad yn Aelod Seneddol—Ei Briodas.


(1862) Yn ystod yr holl amser hwn yr oedd Cymru a'i helyntion yn agos iawn at galon Mr. Richard. Parod ydoedd unrhyw amser i ymffrostio ei fod yn Gymro. Ymwelai â rhyw barth o'r Dywysogaeth yn fynych. Ym mis Medi, 1862, aeth ef a Mr. Edward Miall, a Mr J. Carvell Williams—tri o ddewrion Anghydffurfiaeth—i Abertawe, ar ran Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Cynhaliwyd Cynhadledd, yn yr hon yr oedd tua dau gant o wŷr cyfrifol Yr oedd y Gynhadledd yn un bwysig, yn gymaint ag y pasiwyd penderfyniad mewn cyfarfod mawr cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mr. E. M. Richards, yn datgan nad oedd Anghydffurfiaeth Cymru yn cael ei chynrychioli yn deg yn y Senedd, a dygwyd ffeithiau amlwg i ddangos hynny. Nid oedd ond 16 allan o 32 o'r aelodau Cymreig wedi pleidleisio dros ddiddymiad y Dreth Eglwys, a dim ond dau wedi pleidleisio dros ddadwaddoliad yr