Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eglwys Wyddelig. Ac eto, yn ol cyfrifeb 1851, yr oedd 79 allan o bob 100 o'r Cymry yn Anghydffurfwyr. Gwnaeth Mr. Richard apêl yn y cyfarfod ar fod i'r Cymry ddod i deimlo eu rhwymedigaethau gwladwriaethol.

"Yr oeddent," meddai, "wedi gwneud gwaith ardderchog yn y gorffennol yn efengyleiddiad y wlad—y gwaith pwysicaf yn gyntaf—ond yr oedd ganddynt ddyledswyddau gwladwriaethol i'w cyflawni, a dylent godi o ddifrif atynt. Dylent fyned i gyfarfodydd y plwyf i wrthwynebu y Dreth Eglwys, a dylent ofalu ar fod eu henwau ar restr yr etholwyr, fel y gellid danfon dynion cymhwys i'w cynrychioli yn y Senedd. Yr oedd amser carcharu a dirwyo am fod yn Anghydffurfwyr drosodd; ond yr oedd, er hynny, demtasiynau i'w gwrthsefyll, ac aberthau i'w gwneud yn yr oes hon. A oeddem (gofynnai) yn barod i wrthsefyll yr hudoliaethau cymdeithasol hynny, y rhai, trwy wennau a geiriau teg, a ddefnyddid er ceisio gennym liniaru rhyw gymaint ar ein hegwyddorion? A oeddem yn barod i gyfarfod gwg y Pendefig hwn neu y Bendefiges Haelionus arall? A oeddem yn barod i gymeryd ein troi allan o'n ffermydd yn hytrach nag aberthu ein hegwyddorion? A oeddem yn penderfynnu, er pob perygl, na chaffai Cymru ei cham-gynrychioli yn Nhŷ y Cyffredin?"

Ar ol rhai sylwadau cryfion ereill, gofynnai,— "Pam na wnewch chwi ethol dynion o'r eiddoch eich hunain, y rhai a allent siarad drosoch yn Nhŷ y Cyffredin?" Pan gofiom fod Adroddiad o'r Gynhadledd hon wedi ei hargraffu a'i gwasgaru trwy y Dywysogaeth, ac wrth ddarllen drachefn