Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eglwys erioed yn ddim amgen na llysfam i'r Cymry. O'u hanfodd y gadawodd y Methodistiaid yr Eglwys ar y dechreu, ond bellach y maent yn Anghydffurfwyr egwyddorol a phenderfynnol.

Yn y trydydd llythyr y mae Mr. Richard yn myned i mewn i'r cwestiwn o gryfder cymhariaethol yr Eglwys ac Anghydffurfiaeth. Gwyddai y Cymry yn burion sut yr oedd pethau yn bod, ond ceisiai y clerigwyr, yn y papurau Seisnig, argyhoeddi y Saeson anwybodus mai yr Eglwys oedd gryfaf. Mae Mr. Richard, yn y llythyr hwn, yn profi trwy ystadegau diymwad nad oedd nerth cyfartal yr Eglwys i Ymneilltuaeth ond megis 21 i 79; mai nid yr Eglwys Sefydledig oedd gwir Eglwys Cymru, ac oni buasai am lafur yr Ymneillduwyr y buasai mewn cyflwr truenus, neu, yng ngeiriau y Parch. William Howells, o Long Acre, y gallasai y diafol honni mai ei blwyf ef oedd Cymru. Yr oedd yr Ymneillduwyr wedi gorchuddio y Dywysogaeth â 3,000 o Addoldai. A pha fodd y dygwyd hynny oddiamgylch? Mae Mr. Richard yn ateb y cwestiwn, mai trwy ddylanwad gallu anghydmarol y pulpud Cymreig, trwy y Cyfarfodydd Eglwysig—y "Seiadau"—a dylanwad yr Ysgol Sul. Mae'r teyrnged o barch a delir gan Mr. Richard i