Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddylanwad pregethwyr Cymru yn werthfawr iawn. Mae yn cyfaddef y gall fod ei dystiolaeth ef yn orffafriol, ond dywed, ar ol caniatau popeth o'r fath, mai ei farn ef ydoedd fod y pregethwyr a glywsai efe yn ei ddyddiau boreuol yn "feistriaid anghydmarol mewn hyawdledd pregethwrol," ac ychwanegai, megis rhwng cromfachau, nad oedd eu rhywogaeth wedi darfod eto. Er gwrando, meddai, ar rai o wŷr pennaf y pulpud Seisnig, nid oedd yn credu eu bod yn dod yn agos at y gwŷr a enwai mewn gallu i ddeffro, ysgogi, a lleddfu cynulleidfa boblogaidd. Mae ei ddesgrifiad o'r pregethwyr Cymreig yn rhagorol, ac y mae yn hawdd deall y buasai ei ddarllen, gan un fel Mr. Gladstone, a dynion cyffelyb, ac wedi ei ysgrifennu gan un o allu a barn bwyllog Mr. Richard, yn meddu dylanwad mawr ar eu meddyliau yn ffafr pregethwyr Cymru. Mae ei ddesgrifiad hefyd o ddylanwad daionus y Seiadau Cymreig a'r Ysgol Sul yn dra effeithiol.

Yn ei pumed lythyr y mae yn trin sefyllfa ddeallol y Cymry fel canlyniad y llafur hwn ar ran yr Ymneillduwyr. Dywed nas gŵyr am well danghosiad o sefyllfa ddeallol y Cymry na'r llenyddiaeth a ddefnyddiant. Yr oedd y syniad mwyaf ynfyd yn ffynnu