Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwirionedd, yr oedd yr Ymneillduwyr cymharol dlawd yn cyfrannu yn wirfoddol yn agos gymaint ag yr oedd holl gyllidau yr Eglwys Wladol yn ei osod arnynt trwy orfodaeth; er nad oeddent yn dewis mynychu ei gwasanaeth. Yr oedd eu cyfraniadau at y Feibl Gymdeithas, yn ol yr herwydd, yn fwy nag mewn un rhan arall o'r deyrnas. Yr oeddent yn cynnal Cenhadaethau Tramor hefyd, ac yr oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd Genhadaethau Tramor o'r eiddynt eu hunain. Buasai yn dda gennym allu dwyn sylw at y rhan o'r llythyr hwn sydd yn dwyn cysylltiad âg Ysgolion Dyddiol Cymru, a'r anhegwch dybryd fod awydd aniwall y bobl am addysg i'w plant yn eu gorfodi i'w danfon i ysgolion lle y mae egwyddorion cyfeiliornus, yn ol eu tyb hwy, yn cael eu dysgu i'w plant ynddynt, am nad oedd ysgolion ereill i'w cael yn eu cymdogaeth. O ran hynny, fe wyr ein darllenwyr yn dda am y camwri hwn; ond fe ddylid cofio fod Mr. Richard wedi ei ddynoethi yngwydd y Saeson mewn modd clir, ac mewn iaith bendant, bymtheng mlynedd ar hugain yn ol.

Ond beth am sefyllfa boliticaidd y Dywysogaeth ? Mae Mr. Richard yn ei ddegfed lythyr yn ei drin yn drwyadl. Dyfynna