Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eiriau nerthol Milton a Burke i ddangos mai nid trwy rym arfau y gellid darostwng ewyllys pobl, a bod y Cymry, pan beidiwyd eu gormesu, yn cyfansoddi y rhan fwyaf teyrngarol o'r Ymerodraeth. Yr oeddent yn dawel a heddychol. Yn sicr, yr oedd pobl fel hyn yn haeddu cael eu cyfran deg o lywodraeth y wlad i'w dwylaw trwy gyfrwng y Senedd. Sut yr oedd pethau yn sefyll? Yr oedd yr Eglwyswyr yn 21 y cant o'r boblogaeth, a'r Ymneillduwyr yn 79 y cant, ond nid oedd cymaint ag un Ymneillduwr yn cynrychioli Cymru y pryd hwnnw yn y Senedd; yr oedd yn agos i hanner y cynrychiolwyr (14 allan o 32) yn Doriaid o'r fath fwyaf eithafol, a'r rhai oedd yn proffesu bod yn Rhyddfrydwyr yn unig felly oherwydd traddodiad teuluaidd. Yr oedd pob Ymneillduwr egwyddorol yn rhwym o fod yn Rhyddfrydwr. Ond ni chaed ond dau i bleidleisio dros ddadgysylltiad yr Eglwys Wyddelig; a'r un modd gyda chwestiynau Rhyddfrydol ereill. Yn swydd Dinbych, cyfartaledd yr Eglwyswyr i'r Ymneillduwyr ydoedd 9,130 i 29,153, ac eto yr oedd cynrychiolydd y parth hwnnw o'r Dywysogaeth yn Dori o'r "sect fanylaf," a gofynna Mr. Richard onid gwawd ar gynrychiolaeth deg oedd peth fel hyn?