Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar ol rhoi ffigyrau a phrofion ereill, y mae Mr. Richard yn gofyn paham yr oedd pethau mewn sefyllfa mor anfoddhaol. Mae yn ateb y cwestiwn yn yr unfed llythyr ar ddeg. Yn y lle cyntaf, nid oedd y Cymry, ond yn gymharol ddiweddar, wedi dechreu cymeryd dyddordeb mewn gwleidyddiaeth. Diwygiadau crefyddol oedd, cyn hynny, wedi cymeryd eu bryd; ond yr oedd adfywiad bywyd cenhedlaethol a gwladwriaethol yn rhwym o ddilyn, fel yr oedd wedi dilyn y Diwygiad yn Lloegr. Bu llawer o arweinwyr cenedl y Cymry yn tybied fod math o lygredigaeth ynglŷn â phethau politicaidd. Yr oedd yr iaith hefyd wedi dieithrio meddwl y Cymry oddiwrth lenyddiaeth boliticaidd Lloegr. Crefyddol hollol ymron ydoedd llenyddiaeth Cymru wedi bod. Ond daeth tymor y newyddiaduron, yn fwyaf arbennig yr Amserau. Ceisiodd y clerigwyr ei lindagu. Pan aed ag ef i Ynys Manaw i osgoi y dreth, cynhaliasant gyfarfod, a dygwyd y mater o flaen y llywodraeth, a bu raid dwyn yr Amserau yn ol i Lerpwl i'w gyhoeddi. Ond methwyd lladd y papur, yn hytrach fe gynhyddodd ei gylchrediad. Yr oedd addysg wedi ymledu, a deffrodd meddwl y Cymry at bethau gwladwriaethol.

Mae Mr. Richard yn ei ddeuddegfed lythyr yn nodi arwyddion deffroad ein cenedl, ac yn ei