Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhybuddio y byddai raid iddi wneud aberthau mawrion cyn ennill ei rhyddid, gan fod mawrion y tir yn tybied mai eiddynt hwy oedd gallu politicaidd ein gwlad. Mae yn enwi yr aberthau hynny gyda llygad proffwyd, wrth ystyried fel y cawsant eu gwirio. Noda Mr. Richard y dosbarthiadau yng Nghymru oeddent wedi arfer gwrthweithio llais Rhyddfrydol y lluaws, sef y clerigwyr, y tirfeddianwyr, a'r stiwardiaid. Tra yn cydnabod y mawr les y mae llawer o'r clerigwyr dysgedig wedi ei wneud i Gymru, yr oedd yn rhaid addef fod dosbarth o glerigwyr yn bod, dynion wedi troi oddiwrth yr Ymneillduwyr gan mwyaf oeddent, yn dwyn mawr sel yn erlid y rhai a adawsant ar ol. Nid oedd un dosbarth ag yr oedd efe yn onest yn gresynnu mwy drostynt na'r dosbarth hwn. Mewn enw, hwy oeddent i fod yn brif ddysgawdwyr y bobl, eto yr oeddent yn cael eu dibrisio ganddynt, a'u gadael megys yn unig. A chan eu bod wedi codi o fysg y werin, yr oedd y boneddwyr, ar y llaw arall, yn eu hesgeuluso. Nid rhyfedd fod eu hysbrydoedd yn chwerwi. Ar adegau o etholiad yr oeddent yn cael cyfleustra i ddial trwy ein dilorni wrth fawrion y tir. Dyna'r pryd y caent y pleser o weled yr etholwyr, lawer o honynt, yn gorfod ymwingo o dan iau y gwyr mawr hyn. Er bod llawer o Ryddfrydwyr da