Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymysg yr Eglwyswyr, yr oedd Eglwys Loegr, fel y cyfryw, wedi bod, yn ol tystiolaeth Arglwydd Macaulay, yn elyn rhyddid am dros gant a hanner o flynyddoedd, ac nid oedd un amheuaeth nad oedd y clerigwyr yn onest yn eu cefnogaeth i'r Eglwys yr oeddent mewn cysylltiad â hi. Ond er hyn i gyd, gweithient mewn llinnell hollol wrthgyferbyniol i argyhoeddiadau a dyheuadau y bobl, a diau mai sefyllfa anedwydd ydoedd byw yng nghanol pobl heb nemawr o gydnawsedd rhyngddynt, a chael eu gwthio i fod yn fath o ysbiwyr arnynt, er mwyn eu bradychu i'w huwchafiaid. Gofynna Mr. Richard ai fel hyn yr oeddent am adennill serch eu praidd?

Mae dylanwad y tirfeddianwyr a'r mawrion yn cael ei drin yn y llythyr olaf ond un. Yr oedd boneddwyr Cymru i gyd ymron yn Doriaid trylwyr, y rhai a ystyrient mai eu diogelwch oedd dirwasgu pob rhyddid, pa un ai rhyddid llafar, cydwybod, addoliad, masnach, neu etholiad. Yr oedd rhai teuluoedd, mae'n wir, yn Rhyddfrydwyr, am fod y teulu wedi bod felly erioed. Ond cafwyd profion fod yn well gan lawer o'r cyfryw aberthu eu hegwyddorion politicaidd na gadael i gynrychiolaeth y wlad fyned allan o ddwylaw eu dosbarth hwy.[1]

Wrth gwrs, yr

  1. Cafodd Mr. Richard brawf o hyn yn yr etholiad dros sir Aberteifi yn 1865. Yr oedd y Milwriad Powell yn Dori, ac yn cynrychioli y sir honno ar y pryd. Aeth y si allan ei fod, oherwydd afiechyd, yn bwriadu encilio. Gwnaed pob darpariaeth, gan hynny, i ddwyn allan Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, yr hwn oedd Ryddfrydwr. Yr oedd Mr. Henry Richard hefyd wedi cael ei wahodd i gynnyg ei hun dros y sir. Newidiodd y Milwriad Powell ei feddwl, a phenderfynnodd nad ymddiswyddai. Ar hyn y mae y Barwnig Rhyddfrydol yn tynnu yn ol, gan ei fod wedi ymrwymo i beidio gwrthwynebu y Milwriad Powell, yr hwn oedd "feistr tir mor boblogaidd, ac yn gymydog!" Wrth gwrs, yr oedd yn rhaid cadw y gallu ym meddiant y mawrion, deued a ddelo. Mae yr holl hanes i'w gael yn y Traethodydd am 1865, t.d. 488, wedi ei ysgrifennu gan y doniol Kilsby Jones. Mae yr erthygl yn werth ei darllen, pe na byddai ond am ei donioldeb blasus.