Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd Mr. Richard yn ofalus i ddweud fod eithriadau canmoladwy yn bod, ond eithriadau oeddent. Yr oedd y gwallgofrwydd helwriaethol hefyd yn ddinistr i ffermydd, ac yn rhwym o greu teimladau chwerwon ym mynwesau amaethwyr y tir. Peth arall oedd yn peri dieithrwch oedd, fod y boneddwyr yn hollol anhyddysg yn iaith y bobl, ac yn hytrach yn ymffrostio yn hynny. Yr oedd tuedd ynddynt hefyd i aflonyddu a phoeni y bobl mewn perthynas i'w capelau a'u hysgolion. Gomeddai rhai tirfeddianwyr werthu tir i adeiladu capelau neu ysgoldai arno. Dywedai Mr. Richard fod ganddo restr o'r cyfryw os mynnid cael eu henwau. Yr oedd ereill yn gwerthu tir i'r cyfryw ddiben,