Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond ar delerau gorthrymus. Yr hyn a wnelai y cyfan yn anioddefol oedd, fod y bobl, gan mwyaf, yn Ymneillduwyr, ac mai i ddysgawdwyr a chapelau Ymneillduol yr oeddid yn ddyledus am y tawelwch oddiwrth derfysgoedd yng Nghymru, ac, yn wir, am ddiogelwch y tirfeddianwyr eu hunain.

Pa hawl, gofynna Mr. Richard yn ei lythyr olaf, oedd gan unrhyw feistr tir i ymyryd â materion cydwybod ei denant? Ac edrych yn ol am gan mlynedd a hanner, yr oedd yn rhaid cydnabod mai nid y boneddwyr hyn ydoedd wedi bod yn arweinwyr y bobl mewn crefydd, moes, dysg, na llenyddiaeth, nac mewn unrhyw ffurf o wareiddiad a chynnydd. Nid yn eu rhengoedd hwy yr oedd gwroniaid Cymru i'w cael. Yr oeddent yn ddieithr i'r hyn oedd wedi dyrchafu y genedl. Ac eto, dyma'r dynion oeddent yn honni yr hawl i, ac yn cael eu danfon i'r Senedd. Yn y llythyr hwn y mae Mr. Richard yn rhoi hanes yr ymdrech etholiadol yn sir Feirionnydd, gormes Syr Watkin a Mr. Price, Rhiwlas, at y rhai y dygodd sylw y Senedd ar ol hynny. Terfynna'r llythyr trwy wneud apêl ddifrifol at y tirfeddianwyr; dywed mai ofer ceisio dwyn i mewn y gyfundrefn wriogaethol i wlad rydd, ac os ceisient, y caent mai "trech gwlad nag arglwydd." Yr oedd yn