Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymhellach i'w wneud yng Nghymru, heblaw dal y tir yr ydys wedi ei ennill eisoes."

Ni fuasem wedi myned i mewn mor helaeth i gynhwysiad y llythyrau penigamp hyn—y rhai, yn wir, y dylid eu darllen fel y cyfansoddwyd hwynt i weled eu gwir ragoroldeb—onibai eu bod bellach, fel y dywedwyd, yn anhawdd cael gafael arnynt, a hefyd eu bod yn rhan o waith Mr. Richard, yn ei fywyd, ag a gynhyrchodd gyfnod pwysig yn hanes codiad ein cenedl i'r sefyllfa wladwriaethol y mae ynddi yn awr.

Y mae yn deg cydnabod yma fod llawer o'r Eglwyswyr goreu yn ystod y blynyddau diweddaf yn barod iawn i gydnabod diffygion eu tadau, a'r mawr les a wnaeth yr Ymneillduwyr i Gymru, a hefyd fod gwelliant mawr wedi cymeryd lle yn yr Eglwys Sefydledig yn ddiweddar. Nid oedd neb yn fwy parod i gydnabod hynny na Mr. Richard. Mae yn gwneud hynny yn anrhydeddus yn yr araeth a draddododd yng Nghaernarfon ac Aberdar yn 1883.

Ar yr 20fed o Ragfyr, 1866, priododd Mr. Richard gydag Augusta Matilda, trydedd ferch John Farley, o Kennington, a hynny pan yn 54 mlwydd oed. Yr oedd yn ei hadnabod ers blynyddau, ac yr oedd hi yn un a feddai gydymdeimlad trwyadl a'i waith. Buont yn briod