Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

am ddwy flynedd ar hugain, a chysegrodd hi ei hun yn gyfangwbl i weini arno, ac i hyrwyddo y gwaith mawr yr oedd efe wedi cysegru ei fywyd iddo. “Elai gydag ef i'w holl deithiau yng Nghymru ac ar y Cyfandir, a phan ddechreuodd ei iechyd wanychu ymhen blynyddoedd wedi hynny, dyblodd ei gofal, a phrin y caniatâi iddo fyned allan heb fyned gydag ef. Yn ol pob tebyg, darfu i'w gofal parhaus fod yn foddion i estyn ei oes. Nid rhyfedd fod y fath gydmar bywyd wedi cyfranogi llawer o boblogrwydd ei gŵr yn y Dywysogaeth. 'Yr oedd ei gwyneb llon,' ebe un ysgrifennydd, 'mor adnabyddus bron i gynulleidfaoedd Cymru ag eiddo Mr. Richard ei hun, a thra y cofir un, nid anghofir y llall.' [1] Mae Mrs. Richard eto yn fyw, yn trigo yn 22, Bolton Gardens, Llundain, ac—fe oddefir i fi ychwanegu—yn cymeryd dyddordeb sylweddol yn y Cofiant Cymraeg

hwn am ei diweddar anwyl briod.

  1. C. S. Miall.