Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

anghofio datgan gyda llawenydd ei fod yn fab i un o “hen bregethwyr enwog Methodistiaid Cymru."

Ar agoriad y Senedd, yn Chwefrol, 1869, ar achlysur ciniaw llongyfarchiadol gan yr aelodau Cymreig, pryd yr oedd lluaws o wyr enwog yn bresennol, megys Mr. Knatchbull-Hugesson, Arglwydd Grosvenor, Mr. Morley, Mr. Edward Miall, ac ereill, cymerodd Mr. Richard achlysur i gyfeirio at "ysgriw” y tirfeddianwyr yng Nghymru, a chyda dig cyfiawn at waith clerigwr yn nacau i un o weinidogion Ymneillduol Cymru ddweud gair yn y fynwent ar achlysur claddedigaeth yr hybarch a'r enwog Barchedig Henry Rees.

Gwnaeth Mr. Richard enw iddo ei hun yn y Senedd yn bur fuan. Siaradai gyda phwyll, nerth, a choethder anghyffredin, er yr ofnai rhai y buasai y dôn bregethwrol, yr hon a gasheid gymaint gan y Tŷ, yn ei erbyn. Ond yr oedd Mr. Richard bron yn gwbl rydd oddiwrthi. Siaradai yn berffaith naturiol, a phan dwymnai yn ei bwnc, gyda nerth argyhoeddiadol. Ei araeth gyntaf yn y Tý oedd ar yr 22ain o fis Mawrth, 1869, ar ail ddarlleniad mesur dadsefydliad yr Eglwys Wyddelig. Wrth gwrs, yr oedd esiampl Cymru ganddo i'w gefnogi, a danghosodd ar unwaith ei fod yn un a wnai