Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

argraff ar y Tŷ, ac y mynnai wrandawiad. Gyda phresenoldeb y fath un a Mr. Richard yn y Tŷ, yr oedd dyddiau camddarlunio Ymneillduaeth yn terfynnu.

Ar yr wythfed o fis Gorffennaf yr un flwyddyn, cafodd Mr. Richard gyfleustra neilltuol i ddwyn achos Cymru a gorthrwm y tirfeddianwyr o flaen y Senedd. Cymaint oedd digofaint y boneddwyr hyn oherwydd buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad fel y rhoisant rybudd i oddeutu dau gant o'u tenantiaid. Cododd hynny ystorm trwy yr holl Dywysogaeth. Yn ffodus, pa fodd bynnag, yr oedd gan Gymru, bellach, wr galluog a chymwys i ddadleu ei hachos yn y Senedd. Pan gododd yr aelod dewr dros Ferthyr i fwrw ei hyawdledd llym ar ben rhai o'r gwŷr hyn, yn eu gwydd, yr oedd yr olygfa yn un ddyddorol dros ben. Mewn perffaith hunan-feddiant, ac mewn iaith finiog, ond coeth, dadleuodd yr achos o flaen y Tŷ am dros awr. Mae adroddiad Hansard o'r araeth ragorol hon o'n blaen, ac nis gallwn ymatal rhag rhoddi talfyriad byr o'i chynhwysiad,—

Dywedai ar y dechreu nad peth hyfryd ganddo oedd dwyn cyhuddiad fel hyn o flaen y Tŷ yn erbyn dosbarth o'i gydwladwyr, ond yr oedd pethau wedi eu dwyn i'r fath sefyllfa fel yr oedd cyfiawnder, rhyddid etholiadol, a threfn, a