Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

thangnefedd yn galw am roi terfyn arnynt. Hawliai eu sylw oblegid nid oedd achosion Cymreig wedi bod o flaen y Tŷ er cyn cof. Yr oedd y Cymry yn Rhyddfrydwyr fel cenedl. Nid oedd eisieu un prawf arall o hyn na'r ffaith eu bod yn Ymneillduwyr o ran crefydd, a galw sylw at eu llenyddiaeth. Ar ol ymhelaethu ar y ddau bwynt hyn, dywedodd fod rhai Saeson mor ffol a thybied fod y Cymry yn meddu math o ymlyniad caeth wrth berchenogion y tir, ac y dilynent hwy mewn unrhyw gyfeiriad. Ni fu erioed fwy o gamgymeriad. Er fod addysg wedi ymledu ymysg y bobl, nid oedd y tirfeddianwyr wedi sylweddoli hyn. Dylent gofio nad arglwyddi ar gaethion oeddent mwyach, ond dynion ymysg eu cyd-ddynion. Canfyddid y cynnydd hwn mewn gwybodaeth yn bur eglur yn yr etholiad diweddaf. Yr oedd cydymdrech wedi cymeryd lle rhwng arglwyddi ac Eglwyswyr yn erbyn Rhyddfrydiaeth ac Ymneillduaeth. Y drwg oedd fod rhai—nid pawb, ond rhai—tirfeddianwyr wedi myned i dybied fod y bleidlais yn perthyn i'r tir, fel yr ysgyfarnogod neu'r coedieir, ac os meiddia neb heblaw hwy ofyn am bleidlais y tenant, ei fod yn fath o heliwr anghyfreithlon. Yna, darllennodd Mr. Richard, er mwyn profi ei bwnc, lythyr yn dangos fel y darfu i'r Milwriad