Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

(1870) Pasiwyd lluaws o fesurau pwysig yn Senedd- dymor 1870. Ym mis Mai, dygodd Mr. Watkin Williams benderfyniad ymlaen ar fod gwaddoliadau Eglwysig Cymru i gael eu defnyddio at achos Addysg, a bwriadai Mr. Richard ei gefnogi, ond collold y cyfleustra. Treuliwyd rhan fawr o'r Senedd-dymor gyda chwestiwn Mesur Addysg Mr. Forster. Cymerodd Mr. Richard ran neilltuol yn y ddadl, gan wrthwynebu yr ymgais i dreulio arian y wlad ar ysgolion yn dysgu crefydd enwadol. Amrywiai hyd yn oed y Rhyddfrydwyr yn eu barnau ar wahanol agweddau y cwestiwn hwn. Yr oedd areithiau Mr. Richard ar yr achlysur yn gryf a galluog, ac eto yn gymodol. Nid y cwestiwn ydoedd a oedd crefydd i gael ei dysgu, ond gan bwy? Ni feddai fawr o ymddiried y byddai dylanwad y clerigwyr a'r tirfeddianwyr yn yr iawn gyfeiriad. Cariodd y Llywodraeth y mesur, gyda chynhorthwy y Toriaid, trwy fwyafrif mawr. Gwrthdystiai Mr. Richard yn erbyn y wedd enwadol oedd arno, a gwnaeth Mr. Miall ac yntau rai sylwadau llym, y rhai a allesid dybied a fuasent yn chwerwi ysbryd Mr. Gladstone tuag atynt. Ond nid felly y bu. Gwyddai y Prif Weinidog yn dda mai gwŷr pybyr yn dadleu dros eu hegwyddorion