Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VIII

Y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia—Areithiau ac Ysgrifeniadau Mr. Richard arno—Rwsia yn cymeryd mantais ar yr amgylchiadau.

(1870) "Yn nechreu y flwyddyn 1870, gallesid meddwl fod egwyddorion Heddwch wedi ymluchio dros gyfandir Ewrob fel tôn gref. Taenid y gair yn y newyddiaduron, fod Ffrainc yn barod i symud yng nghyfeiriad diarfogiad helaeth. Pa fodd bynnag, codwyd y pwnc i'r gwynt trwy ymweliad Mr. Richard â'r Cyfandir ar ei neges dangnefeddus, a dadleuid ef yn fynych yn y papurau. "Yn yr holl wledydd o'n cwmpas (ebe M. Convreue, yn Senedd Belgium) mae y bobl yn gwaeddi allan am Heddwch, ac yn gwrthdystio yn erbyn yr ynfydrwydd milwraidd presennol." Mewn araeth a draddododd y Gwir Anrhydeddus Mr. Forster yn Bradford, dywedai wrth daflu ei olwg dros wledydd Ewrob, fod golwg obeithiol iawn ar bethau gyda golwg ar y cwestiwn o Heddwch rhwng gwledydd. Yr oedd Ffrainc yn gwneud gostyngiadau milwrol, a Phrydain