Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Nid oes eisieu i ni ddweud wrth ein darllenwyr fod ein calon yn ddrylliedig wrth edrych ar sefyllfa ddifrifddwys Ewrob. Hawdd fyddai ysgrifennu cyfrol ar y pwnc, ond fel amddiffynwyr heddwch, gwell i ni fod yn gynnil gyda'n geiriau, rhag i ddim a ddywedwn gyffroi teimladau cynhyrfus y pleidiau ymladdgar, y rhai a allant yn hawdd beri cynnwrf rhwng y wlad hon ac un o'r Galluoedd. Eglur yw i bawb a ddarllenno y papurau Seneddol, fel yr ydym ni wedi gwneud, fod gwreiddyn y drwg yn gorwedd yn ddyfnach na dewisiad y Tywysog Hohenzollern i orsedd Yspaen. Mae pob rhyfel, fel y dywed Kant, yn cenhedlu rhyfel arall. Mae y rhyfel presennol yn profi hyn. Nid oes ynnom un awydd i ddweud gair a duedda i esgusodi ymddygiad llywodraeth Ffrainc ar yr amgylchiad presennol. Ni fynnem, er holl olud a gallu y byd, fod o dan y baich o waed ar ein heneidiau sydd yn rhwym o orwedd ar enaid yr Ymherawdwr a'i gynghorwyr. Nid oedd yr hyn a roddir allan fel achos y rhyfel yn ddiau ond esgus; o leiaf yr oedd yr achos hwnnw wedi ei symud oddiar y ffordd cyn penderfynnu myned i ryfel. Wrth eu drws hwy, yn ddiau, y gorffwys y cyfrifoldeb o fod wedi gollwng cwn rhyfel yn rhydd. Yr ydym yn dweud yn bendant ac yn glir mai wrth ddrws llywodraeth ac nid pobl Ffrainc y gorwedd."

Ar ol dwyn profion o hyn, y mae yn troi at Prwsia, ac yn dweud ei bod mewn ysbryd anystyriol wedi dechreu teithio ar hyd llwybr rhyfel tua phedair blynedd cyn hynny. Pan oedd Ewrob yn heddychol, taflodd ei byddinoedd arni, ac heb hawl, ond hawl nerth cleddyf, trawsfeddianodd