Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diriogaethau mawrion, a hynny yn groes i farn ei deiliaid ei hun. Ped aroshasai, syrthiasai y tiriogaethau hyn yn naturiol i'w dwylaw. Daeth Prwsia fel hyn yn allu cryf yn Ewrob, ac yr oedd ar Ffrainc ryw gymaint o'i hofn. Hyderai Mr. Richard, pa fodd bynnag, na wnai y wlad hon ymyryd mewn un modd yn y cweryl, os nad ymyrai i geisio atal tywallt gwaed. Yr oedd dosbarth o bobl yn y wlad hon, yn manteisio ar ryfel; ond meddai bob ymddiried yn Mr. Gladstone ac Arglwydd Granville. Ein perygl ydoedd oddiwrth ein swyddogion milwrol, y rhai, o dan yr esgus o osod y wlad mewn sefyllfa amddiffynnol, a waeddant am ychwanegiad at ein harfau rhyfel.

Mewn erthygl arall yn yr un cyhoeddiad, y mae Mr. Richard yn dychwelyd at y cwestiwn hwn. Gwawdia y syniad ffol, yn ol ei farn ef, o ymarfogi er mwyn cadw heddwch. Yr oedd byddinoedd anferth Ewrob yn ei gwasgu i'r llawr. Yr oeddent yn gwneud yr un peth a phe dyblid rhenti pob teulu. Elai naw ceiniog o bob swllt o'r trethi a godid oddiar bobl y wlad hon i dalu costau milwrol y dyddiau presennol neu y rhai a fu. Dywedid fod hynny yn angenrheidiol er mwyn diogelu heddwch. Ond fel arall yn hollol yr oedd pethau yn bod. Yr oedd pob blwyddyn o ychwanegiad at y moddion milwrol