Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ychwanegu y perygl o ryfel yn y pen draw. Dywedai Ymherawdwr Ffrainc, yn ei gyhoeddiad o ryfel (Gorffennaf 23, 1870), fod yr "arfogiadau eithafol hyn wedi gwneud Ewrob yn wersyllfa, lle nad oedd yn aros ond ansicrwydd ac ofn am yfory." Dyna ganlyniad naturiol pethau. A oedd rhyw un mor ffol a meddwl, pe na buasai yr ystorfeydd o ynnau ac offer rhyfel o bob math yn bod, y buasai Ffrainc a Phrwsia wedi myned i ryfel? Ychwanegu perygl yr oedd y pethau hyn, ac nid diogelwch. A oedd y ddwy wlad yn agos mor gryf i gyfarfod â'u gilydd ag y buasent, pe heb dlodi eu hunain trwy drethoedd beichus am flynyddau?

Llwyddodd y wlad hon i gadw allan o'r trybini; ond bu raid ychwanegu dwy filiwn o bun- nau at ddyled y deyrnas, ac ugain mil o wŷr at nifer ein milwyr.

Tra bu y ddwy deyrnas fawr fel hyn yn ym- ladd, nid oedd Mr. Richard yn segur. Gwnaeth ei oreu, ar yr esgynlawr, yn y Senedd, a thrwy y Wasg, i ddadleu yn erbyn i'r wlad hon gymeryd ei llusgo i'r rhyferthwy ofnadwy oedd yn ymferwi ar y Cyfandir. I'r diben hwn gofalai gadw o flaen darllenwyr yr Herald of Peace ddifyniadau o'r gohebiaethau o faes y gwaed, er mwyn iddynt sylweddoli erchyllderau rhyfel Traddododd areithiau grymus yma a thraw yn