Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ystod y tymor hwn, ac un bwysig iawn yn y Senedd ar y laf o Awst, yr hon y rhaid i ni gyfeirio ati. Canfyddir ei hamcan oddiwrth y crynhodeb canlynol,—

"Ofnai," meddai, "nad oedd y blaid a gynrychiolai efe yn boblogaidd iawn ar y pryd, sef plaid heddwch; a chyhuddai Mr. Disraeli o fod wedi traddodi araeth anoeth, un llawn o ysbryd rhyfel. Yn wir, tybiai efe fod y cwrs a gymerid gan y boneddwyr ar yr ochr arall i'r Tŷ, ymhell o fod yn un ag oedd yn dangos gwir wladgarwch. Beth oedd bwrdwn eu hareithiau? Cyhoeddent gyda phwyslais arbennig fod y wlad hon yn berffaith ddiamddiffyn; nad oedd gennym na byddin na llynges o ddim gwerth. O ran hynny, dyna eu cri bob amser. Yr oedd efe wedi cymeryd dyddordeb yn y materion hyn ers pum mlynedd ar hugain, ac yn ol y boneddigion hyn, ni fu gennym erioed arfau amddiffynnol o ddim gwerth. Mor fuan ag y caniateid yr arfau a geisient, dwedid wrthym nad oeddent dda i ddim. Os oedd ein sefyllfa mor ddiamddiffyn, yr oedd gennym yn sicr hawl i ofyu beth oedd wedi dod o'n harian, y miliynnau ar filiynnau oeddem wedi bod yn eu tywallt i'w trysorfa. Ond hyderai na wnai y Weinyddiaeth gymeryd ei dychrynnu i wastraffu mwy o arian y wlad, tra yr oedd, yn ol tystiolaeth y gwŷr a enwyd, mor ddifudd. Na, yr oedd gan y ddau Allu ymladdgar ddigon ar eu dwylaw heb gweryla â'r wlad hon. A oedd yr holl baratoadau rhyfelgar a wnaed ganddynt wedi sicrhau heddwch? Yn hytrach, fel arall yn hollol."

Yna aeth Mr. Richard ymlaen i roddi cyngor difrifol i wŷr y Wasg, o ba un yr oedd efe yn