Tudalen:Bywyd a Gwaith henry Richard AS.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhyfel oddiamgylch, ac nad oedd y cwestiwn rhwng Ffrainc a Phrwsia, a defnyddio geiriau paffwyr pen-ffordd, ond yr hen gwestiwn pwy oedd y dyn goreu (the best man). Ac nid cwestiwn oedd hwn rhwng pobl y ddwy wlad, ond rhwng eu harweinwyr milwrol.

"Dyma," meddai yn un o'i erthyglau, "ddernyn allan o un o'r newyddiaduron. Ar y 12fed o fis Gorffennaf, cynhaliwyd cynghor pwysig yn y Tuileries, a phan oedd yr holl weinidogion ereill o blaid heddwch, tarawodd y Cadlywydd Lebouf ei ddwrn ar y bwrdd, a dywedodd y rhoddai ei swydd i fyny os na chyhoeddid rhyfel.' 'A ydych yn barod,' oedd gofyniad y Cyfrin-gyngor, 'i fyned i ryfel yn erbyn y gallu cryfaf yn Ewrob Ni fuom erioed yn fwy parod,' oedd yr ateb; ac yna dywedai yr Ymherawdwr,— Rhaid i ni, o ganlyniad, fynnu ymrwymiadau gan Prwsia; dyna ben ar y mater.'"

Cynlluniau i oresgyn Prwsia oedd gorchwyl swyddogion milwrol Ffrainc yn eu horiau hamddenol. Ar y llaw arall, pan gyfarfyddai swyddogion milwrol y Tywysog Frederick Charles ar giniaw, eu gwaith fyddai i un osod i lawr gynllun i oresgyn Ffrainc, ac i'r lleill ei feirniadu. Gwasgai Mr. Richard y gwirionedd adref fod yr un dosbarth yn fyw i'r un gwaith yu y wlad hon, a nodai ffeithiau i brofi hynny. Ewyllysiai y dosbarth hwn i ni efelychu y Galluoedd mawrion oedd yng ngyddfau eu